Afon Llyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae Afon Llyfni yn tarddu fel Nant Drws y Coed ar lethrau [[Y Garn]] a [[Mynydd Drws y Coed]] uwchben pentref gwledig [[Rhyd-ddu]], man geni [[T.H. Parry-Williams]]. Wedi llifo tua'r gorllewin wrth ochr y ffordd B4418 mae'n cyrraedd [[Llyn Nantlle Uchaf]].
 
Ar ôl llifo trwy'r [[llyn]] hwnnw mae'r afon yn newid ei henw i Afon Llyfni. Mae'n llifo i lawr [[Dyffryn Nantlle]], gan godi dŵr o'r hen dyllau chwareli sy'n niferus iawn yn yr ardal yma, a llifo heibio [[TalysarnTal-y-sarn]] a [[PenygroesPen-y-Groes|Phen-y-groes]]. Mae'n cyrraedd y môr gerllaw [[Pontllyfni]].
 
Yn y gorffennol defnyddid rhai o'r tyllau chwareli[[chwarel]]i i gael gwared o sbwriel diwydiannol o wahanol fathau, a bu pryder fod hwn yn creu [[llygredd]] wrth i ddŵr o'r pyllau hyn lifo i mewn i Afon Llyfni. Mae'n ymddangos nad oes problem gydag ansawdd y dŵr ar hyn o bryd fodd bynnag, ac mae'r Llyfni yn afon boblogaidd gyda physgotwyr.
 
[[Categori:Afonydd Cymru|Llyfni]]