Ifor Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
enw arall
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
==Hanes==
Yn 1158 ymosododd ar Esyllt Haf Mon Jones, Dafydd Rhys Jones a [[Morgan ab Owain]] o [[Gwynllwg|Wynllwg]] a [[Caerleon|Chaerllion ar Wysg]] a'i ladd ef a'r 'bardd gorau,' [[Gwrgant ap Rhys]]. Cofir amdano yn arbennig oblegid ei ymosodiad sydyn ym mherfeddion nos ar [[Castell Caerdydd|gastell Caerdydd]] yn yr un flwyddyn, a mynd â [[William, Iarll Caerloyw]], Hawys ei wraig, a'u mab Robert i'w amddiffynfeydd coediog ef ei hun, a gwrthod eu rhyddhau nes i William ddychwelyd y tiroedd a ladratasai oddi arno a rhoi iddo diroedd ychwanegol yn iawndal. Dyma ddisgrifiad [[Gerallt Gymro]] o Ifor Bach a'r digwyddiad honno :
:Yn awr yr oedd William, Iarll Caerloyw, fab yr iarll Rhobert, a ddaliai, yn ôl deddf etifeddiaeth, yn ogystal â'r castell a enwyd [sef Caerdydd], holl dalaith Gwlad Forgan, wedi digwydd bod yn rhyfela yn erbyn un o'i wŷr a elwid Ifor Bach. Canys gŵr o gorffolaeth fach ydoedd, ond o ddewrder difesur : a chanddo yn ei feddiant, yn ôl arfer y Cymry, rai tiroedd mynyddig a choediog, yr oedd yr iarll... yn ymdrechu naill ai i'w dwyn oddi arno yn llwyr, neu ynteu i'w rhannu. Un noswaith, ynteu, er bod Castell Caerdydd yn ymddangos wedi ei amddiffyn yn gadarnaf posibl gan ei gylch muriau, a'i lu o wylwyr, er bod y ddinas yn orlawn o filwyr, chwe ugain ohonynt, a heblaw hynny lu o saethyddion, a hefyd warchodlu niferus iawn o amddiffynwyr... gan ddwyn ysgolion a dringo'r muriau yn ddirgel, dug yr Ifor uchod yr Iarll a'r Iarlles allan, ynghyda'u mab bychan, eu hunig blentyn, a'u harwain gydag ef i'r coedydd. Ac ni ryddhaodd hwynt nes iddo ennill yn ôl bopeth a ddygesid yn anghyflawn oddi arno, a pheth dros ben.
:''[[Hanes y Daith Trwy Gymru]]''<ref>Thomas Jones (cyf.), ''Gerallt Gymro'' (Caerdydd, 1938), tt. 62-3.</ref>