Bioleg a chyfeiriadedd rhywiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: tr:Biyoloji ve cinsel yönelim
dolen
Llinell 4:
Er ystyriant gwyddonwyr nifer o ffactorau biolegol, megis [[hormon cyn-geni|hormanau cyn-geni]], [[cromosom]]au, effeithiau polyenynnol, strwythur yr ymennydd a dylanwadau firaol, ni fodolir consensws gwyddonol ar sut mae bioleg yn dylanwadu ar gyfeiriadedd rhywiol.
 
Cytuna'r mwyafrif o wyddonwyr ei fod yn annhebygol bod yna "genyn hoyw" unigol sy'n pennu rhywbeth mor gymhleth â chyfeiriadedd rhywiol, ac mae'n fwy tebygol taw rhyngweithiad o ffactorau [[Geneteg|genynnol]], biolegol ac amgylcheddol/diwylliannol sy'n ei achosi. Er hynny, darganfuwyd [[alel]]au [[mwtanaidd]] o enyn "diffrwyth" o fewn [[Drosophila melanogaster|pryfed ffrwythau]] oedd yn achosi pryfed gwrywol i garu a cheisio ymgydio â gwrywod eraill yn unig.
 
Er rhoddir llawer o'r canolbwynt poblogaidd ar fformiwlâu syml megis "[[Xq28|y genyn hoyw]]", gwerth ymchwil gwyddonol yn y maes hwn yn y bôn yw datblygu gwir ddealltwriaeth o sylfaen fiolegol cyfeiriadedd rhywiol yn gyffredinol, sydd ar hyn o bryd heb ddealltwriaeth gadarn am unrhyw gyfeiriadedd unigol. Dylai astudiaeth o sut mae mecanweithiau datblygus yn cynhyrchu amrywiad yng nghyfeiriadedd rhywiol arwain at ragor o ddealltwriaeth o sut mae nifer o nodweddion ymddygiadol tebyg yn gweithio hefyd.