Brych (bioleg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ysmotyn neu smotiau melynllwyd ar y croen ydy '''brych,''' ('brychni' ydy'r lluosog); ceir ystyr arall i'r gair, sef amwisg [[buwch]] neu [[caeg|gaseg]] newydd ei eni. Clystyrau bychan o [[melanin|felanin]] ydyw mewn gwirionedd. 'Brycheuyn', neu 'gwall' ydy ei ystyr yn yr hen Frythoneg 'bricca' ac fe'i ceir gyntaf yn y Gymraeg yn y Beibl, yn 1300, ''Tynn y brychewyn oth lygat dy hyn yn gyntaf''.
 
Mae brychni haul yn cael ei basio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth, oherwydd y [[Geneteg|genyn dominant]] genemelanocortin-1, yn benodol: [[melanocortin]] (MC1R). Yr [[haul]] sy'n symbylu'r tyfiant, fel y sylweddolodd yr hen Gymru drwy roi'r enw 'brychni haul' arnynt. Mae pelydrau'r haul (yr [[uwchfioled]], yn benodol) yn ysbrydoli'r melanoseits i gynhyrchu melanin, sy'n cynyddu eu maint a thywyllu eu lliw.
 
Ar yr wyneb a'r fraich y mae nhw fel arfer, fel y gwelwn o'r lluniau. Ond, pan fo rhannau eraill o'r corff yn llygad yr haul, gallent lewyrchu yno hefyd. Anamal iawn rydym yn eu gweld ar fabis bach. Fel arfer ar blant oed [[llencyndod]] mae nhw'n tyfu.