Bwlchgwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 17:
Hawlir gan arwyddion ar ffin y pentref mai Bwlchgwyn ydy'r pentref uchaf yng [[Cymru|Nghymru]]. Yn ôl yr [[Arolwg Ordnans]], [[Trefil]], [[Blaenau Gwent]] yw'r pentref uchaf yng Nghymru, [[Garn yr Erw]], [[Torfaen]] yn ail, a Bwlchgwyn yn drydydd. Mae Bwlchgwyn yn 1167 troedfedd (356 medr) uwchben lefel y môr<ref>[http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-35166641 Gwefan newyddion y BBC, 23.12.2015]</ref>, sydd yn effeithio ar yr hinsawdd leol yn arw. Saif y pentre ar [[tywodfaen|dywodfaen]] o'r [[Oes Carbonifferaidd]], sy'n cynnwys plwm.
 
O'r gulfan lle lleolir cofeb rhyfel y pentref fe welir gwastatir [[Swydd Gaer]] i'r dwyrain, ac i'r gorllewin, [[Bryniau Clwyd]], yn benodol [[Moel Fenlli]] a [[Moel Famau]]. Enw lleol am y gulfan yw 'Y Drofa'. Mae tarddiad [[Afon Gwenfro]] i'r de o Fwlchgwyn. Tarddir dwy afon arall a'r rhostir i'r gorllewin, un sydd yn llifo trwy [[Nant y Ffrith]], i'r gogledd y pentref ac yn ymuno ag [[Afon Cegidog]] yn [[Ffrith]], a'r llall, [[Afon Clywedog]], sy'n llifo i'r de o Fwlchgwyn cyn iddi ymuno ag [[Afon Dyfrdwy]].
 
==Hanes==