Cysylltiadau rhyngwladol Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn |
cydnabyddiaeth |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Bundesarchiv Bild 183-M0925-406, New York, Fahnen vor dem UNO-Gebäude.jpg|bawd|[[Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen]] y tu allan i Bencadlys [[y Cenhedloedd Unedig]] yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]], 1973]]
Roedd [[polisi tramor]] [[Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen]] (DDR) yn ddibynnol ar bolisi tramor [[yr Undeb Sofietaidd]] (UGSS).<ref>Olszewski (1978), t. 179.</ref>
==Cydnabyddiaeth ryngwladol==
Cafodd safle'r DDR ar y llwyfan ryngwladol ei rwystro'n llym gan [[Athrawiaeth Hallstein]], agwedd o [[Westpolitik]] Gorllewin yr Almaen o 1955 i tua 1970 oedd yn haeru ni ellir cynnal cysylltiadau diplomyddol â gwladwriaethau oedd yn [[cydnabyddiaeth ryngwladol|cydnabod]] y DDR, er mwyn atgyfnerthu ei haeriad taw'r Weriniaeth Ffederal oedd yr unig wladwriaeth Almaenig gyfreithlon. O ganlyniad, cydnabuwyd y DDR gan wladwriaethau comiwnyddol eraill yn unig, gan ei gwneud yn "esgymun rhyngwladol" oedd yn ddibynnol ar yr Undeb Sofietaidd a gweddill y Bloc Dwyreiniol.<ref>Dennis (2000), t. 130.</ref> Dilynodd y DDR [[Athrawiaeth Ulbricht]], gyda'r amcan o ennill cydnabyddiaeth Gorllewin yr Almaen. Roedd hyn nid yn unig yn brif nod polisi tramor y DDR, ond yn brif nod holl bolisi'r [[Plaid Undod Sosialaidd yr Almaen|Blaid Undod Sosialaidd]].<ref>Ludz (1970), t. 60.</ref> Pan ddaeth [[Willy Brandt]] yn Ganghellor Gorllewin yr Almaen ym 1969, ceisiodd ei [[Ostpolitik]] i normaleiddio cysylltiadau rhwng Gorllewin yr Almaen a'r Bloc Dwyreiniol, gan gynnwys y DDR. Roedd Brandt yn barod i gydnabod y DDR fel gwladwriaeth ar wahân, ond nid cenedl ar wahân, gan gadw'r nod o aduniad yn y pen draw.<ref>Dennis (2000), t. 131.</ref> Yn dilyn [[Cytundeb y Pedwar Pŵer ar Ferlin]] a [[Cytundeb Sylfaenol 1972|Chytundeb Sylfaenol 1972]], bu 'ton ddiplomyddol' o wladwriaethau newydd yn cydnabod y DDR.<ref>Larson (1988), adran 'Foreign Policy'.</ref>
==Cyfeiriadau==
Llinell 8 ⟶ 11:
==Ffynonellau==
* Dennis, M. ''The Rise and Fall of the German Democratic Republic, 1945–1990'' (Harlow, Lloegr, Pearson Education, 2000).
* Larson, S. 'Government and Politics', yn ''East Germany: A Country Study'', golygwyd gan S. R. Burant (Washington, D. C., GPO for the Library of Congress, 1988).
* Ludz, P. C. ''The German Democratic Republic from the Sixties to the Seventies'' (Cambridge, Massachusetts, Prifysgol Harvard, 1970).
* Olszewski, M. W. 'The Framework of Foreign Policy', yn ''The German Democratic Republic: A Developed Socialist Society'', golygwyd gan Lyman H. Legters (Boulder, Colorado, Westview Press, 1978), tt. 179–98.
|