Market Bosworth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | suppressfields = cylchfa | ardal = Hinckley a Bosworth<br />(Ardal a Bwrdeisdref) | gwlad = {{banergwlad|Lloegr}} | sir = [[Swydd Gaerlŷr]]<br />([[Swyddi seremonïol Lloegr|Sir seremonïol]]) }}
 
Tref fechan a phlwyf sifil yn [[Swydd Gaerlŷr]], [[Dwyrain Canolbarth Lloegr]], yw '''Market Bosworth'''.<ref>[https://britishplacenames.uk/market-bosworth-leicestershire-sk406031 British Place Names]; adalwyd 9 Ebrill 2020</ref> Fe'i lleolir yng ngorllewin Swydd Gaerlŷr tua hanner ffordd rhwng [[Tamworth]] a dinas [[Caerlŷr]]. Rhoddwyd siarter yn rhoi'r hawl i gynnal marchnad ynddi gan y brenin [[Edward I o Loegr]] yn 1285.
 
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,097.<ref>[https://www.citypopulation.de/en/uk/eastmidlands/admin/hinckley_and_bosworth/E04012372__market_bosworth/ City Population]; adalwyd 9 Ebrill 2020</ref>
 
Rhoddwyd siarter yn rhoi'r hawl i gynnal marchnad ynddi gan y brenin [[Edward I o Loegr]] yn 1285.
 
Mae'n adnabyddus yn bennaf am roi ei enw i [[Brwydr Bosworth|Frwydr Maes Bosworth]], y frwydr olaf yn [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]], a ymladdwyd ar 22 Awst 1485. Roedd gan y brenin [[Rhisiart III o Loegr]] fyddin gryn tipyn yn fwy na byddin Gymreig [[Harri Tudur]], ond roedd amheuaeth ynghylch teyrngarwch llawer ohonynt. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar safle ger Market Bosworth. Roedd tua 6,000 o wŷr dan Arglwydd Stanley a'i frawd, ac wedi iddynt wrthod ymuno a'r frwydr ar y dechrau, ymosodasant i gefnogi Harri Tudur. Lladdwyd Richard, a daeth Harri Tudur yn frenin fel [[Harri VII o Loegr]].
Llinell 10 ⟶ 14:
{{Trefi Swydd Gaerlŷr}}
{{eginyn Swydd Gaerlŷr}}
 
[[Categori:Ardal Hinckley a Bosworth]]
[[Categori:Plwyfi sifil Swydd Gaerlŷr]]
[[Categori:Trefi Swydd Gaerlŷr]]