Conswl Rhufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Conswl''' (talfyriad. ''cos.''; lluosog Ladin ''consules'') oedd swydd wleidyddol etholedig uchaf Gweriniaeth Rhufain a swydd benodedig yn ddiweddarach dan yr [[Ymerodraet...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:21, 23 Ionawr 2007

Conswl (talfyriad. cos.; lluosog Ladin consules) oedd swydd wleidyddol etholedig uchaf Gweriniaeth Rhufain a swydd benodedig yn ddiweddarach dan yr Ymerodraeth Rufeinig. Yng nghyfnod y Weriniaeth, y conswliaid oedd y barnwyr sifil a milwrol uchaf, gan gyflawni eu dyletswyddau fel pennau'r wladwriaeth a'r llywodraeth fel ei gilydd. Fodd bynnag, dan yr Ymerodraeth roeddynt yn ffigyrau symbolaidd yn bennaf, cysgod o'r hyn a fuasant dan y Weriniaeth, heb fawr grym nac awdurdod.

Pan fu terfyn ar linell brenhinoedd Rhufain yn 509 CC, rhoddwyd yr enw 'conswl' ar y ddau braetor a etholwyd. Yn ôl traddodiad roeddynt i gyd yn aelodau o'r dosbarth uchelwrol (patricii) tan 367 CC pan basiwyd deddf Lex Licinia Sextia a ganiatai fod un o'r conswliaid yn aelod o'r "werin" (plebs: h.y. heb fod yn perthyn i deulu uchelwrol). Y flwyddyn wedyn etholwyd y Conswl Lucius Sextius fel y conswl plebaidd cyntaf. Parhaodd swydd y conswl, mewn enw o leiaf, hyd OC 541.

Enwid y flwyddyn ar ôl enawau'r conswliaid yn swyddogol (cyfochrog â'r system rhifol ab urbe condita (calendr seiliedig ar ddyddiad traddodiadol sefydlu Rhufain gan Romulus). Er enghraifft yr enw ar 59 CC oedd "Conswliaeth Cesar a Bibulus," am mai (Gaius) Iŵl Cesar a Marcus Calpurnius Bibulus oedd y ddau gonswl y flwyddyn honno - ond roedd yn hen jôc yn Rhufain ei galw yn flwyddyn "Conswliaeth Gaius ac Iŵl" gan fod Iŵl Cesar wedi dominyddu ei gyd-gonswl cymaint!



 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.