Rhyfel y Falklands: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Mae poblogaeth o rhyw ddwy fil yn byw ar yr ynys ac maent yn ddibynnol ar yr Ariannin am nwyddau a bwyd, am addysg i lawer o'r bobl ifanc, ac am wasanaethau iechyd.
 
Ers ei hannibyniaeth hawliai'r Ariannin [[sofraniaeth]] ar Ynysoedd y Falklands, ond cafodd yr ynysoedd eu hawlio trwy rym gan [[Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon|Goron Prydain]] yn gynnar yn [[1833]] a'u troi'n [[Trefedigaeth|wladfa]] Brydeinig. Ar 2 Ebrill, 1982, goresgynwyd yr ynysoedd gan lywodraeth filwrol asgell dde'r Ariannin. Methiant fu'r ymdrechion gan y [[Cenhedloedd Unedig]] a'r [[Unol Daleithiau]] i ddatrys y sefyllfa'n heddychlon ac anfonwyd llynges gyda milwyr ac awyrennau gan lywodraeth [[Margaret Thatcher]] i ailgipio'r ynysoedd; "Tasglu'r FfalklandsFalklands" fel y'i gelwid. Ar [[25 Ebrill]] cipiwyd ynysoedd [[De Georgia]] yn ôl ac erbyn [[14 Mehefin]] roedd y Malvinas eu hunain yn ôl ym meddiant y Deyrnas Unedig. Collodd 257 Prydeiniwr eu bywydau, 649 o luoedd arfog yr Arianin, a thri o drigolion yr ynys, gan gynnwys suddo'r llong ''[[Sir Galahad]]'' gan awyrennau Archentinaidd a lladd nifer o Giardau Cymreig, a suddo'r llong ryfel y ''[[General Belgrano]]'' gan long danfor Brydeinig gyda cholledion mawr o gonsgriptiaid ifainc.
 
Roedd Rhyfel y Falklands yn unigryw am fod [[Cymry]] [[Cymraeg]] wedi ymladd yn erbyn ei gilydd, Cymry Cymraeg o Gymru yn erbyn Cymry Cymraeg [[Y Wladfa]].