Llywelyn Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 13:
Yn 27 oed, roedd Llywelyn yn dywysog Gwynedd ar ôl gorchfygu ei ewythredd. Yn [[1201]] arwyddodd y cytundeb ysgrifenedig ffurfiol cyntaf yn [[hanes Cymru]] rhwng tywysog Cymreig a choron [[Lloegr]]. Yn y cytundeb roedd cynghorwyr y brenin [[John, brenin Lloegr|John]] yn cydnabod hawl Llywelyn i orsedd [[Aberffraw]] a'r tir a ddaliai ac yn cydnabod hefyd ddilysrwydd [[Cyfraith Hywel Dda]]. Yn [[1202]] cipiodd Llywelyn [[cantref|gantref]] strategol [[Penllyn]], ar y ffîn â [[Powys Fadog]]; arwydd o'i uchelgais am y dyfodol i reoli'r Bowys ymranedig.
 
I gadarnhau ei sefyllfa bellach, priododd â [[Y Dywysoges Siwan]], merch gordderch y Brenin John, yn [[1205]]. Manteisiodd Llywelyn ar ei berthynas newydd. Yn [[1208]] cipiodd [[Powys Wenwynwyn|Bowys Wenwynwyn]] (arestiwyd [[Gwenwynwyn ab Owain]] o Bowys, oedd yn ddeiliad i goron Lloegr, dros dro gan John), gorymdeithiodd â'i fyddin i [[Ceredigion|Geredigion]] gan feddianu ac atgyfnerthu [[Castell Aberystwyth]] a sicrhau gwrogaeth yr aglwyddi lleol. Dechreuodd cantrefi Cymreig y [[Mers]] edrych arno am gefnogaeth yn eu hymwneud â'r [[Normaniaid]]. Roedd angen cefnogaeth Llywelyn ar John yr adeg honno oherwydd problemau efo [[Ffrainc]] a nerth y [[barwn]]iaid yn Lloegr, ac roedd Llywelyn yn ymwybodol o hynny. Yn [[1209]] bu'n cefnogi John yn ystod ei gyrch yn erbyn yr [[Alban]]wyr. Erbyn [[1210]] roedd awdurdod Llywelyn wedi ei osod ar seiliau cadarn, i bob golwg. Er ei fod yn anghytuno â John a'i olynydd, [[Harri III o Loegr]] weithiau, llwyddasai i gadw ei dywysogaeth yn annibynnol a hyd yn oed i gipio'r rhan fwyaf o Bowys a Cheredigion.
 
== 1210-1218 ==