Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Croeso
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Helô 'na. Bydda i'n logio i mewn i Wicipedia o bryd i'w gilydd i ysgrifennu rhyw erthygl ar bwnc ieithyddol neu i olygu erthyglau eraill. Byddai'n wych gweld y safle Cymraeg yn datblygu i mewn i ffynhonnell gwybodaeth ddiddorol a defnyddiol fel sydd mewn ieithoedd eraill, sy'n ateb cwestiynau fel:
Shwmae, helô 'na! Mae'r peth Wicipedia 'ma yn hollol newydd i fi ond wy'n dysgu yn ara deg. Felly maddeuwch unrhyw gamsyniadau :) Diolch
 
*Mae'r [http://en.wikipedia.org/wiki/Norwegian_phonology#Pulmonic_ingressive/ erthygl hon] yn dweud bod y gair Norwyeg ''ja'' "ie" yn cael ei ynganu'n fewngyrchol. Oes ymchwil wedi'i wneud ar y sain fewngyrchol mae rhai o siaradwyr y Gogledd yn ei gwneud ar ddiwedd brawddegau weithiau?
:: Croeso i ti atom ni; mwynha dy hun! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 02:46, 3 Hydref 2008 (UTC)
 
*Ydy Cymraeg safonol yn defnyddio dwy system wahanol o sillafu bellach? Sef, yr un draddodiadol e.e. Mae < i> yn hir mewn geiriau unsill o flaen <n> ac <l> e.e. <min, hin, llin> ac felly <pin> /piːn/ (yn hytrach na < pîn> hŷn), ac un newydd sy'n torri rheolau'r un draddodiadol, e.e. <bin> /bɪn/, felly ai /vi:n/ o <min> neu /vɪn/ o <bin> yw <fin>? Ydy'r system newydd yn cael ei defnyddio mewn geiriau lletchwith i ddechrau ac yna maent yn cael eu safoni yn nes ymlaen, e.e. <pìn> /pɪn/ lle cafwyd <pin> gynt? Beth am eiriau fel <cracyr> ac *<albym> /krakər, albəm/ nid, fel y bydden nhw yn ôl y system draddodiadol, /krakɨr, albɨm/ neu /krakɪr, albɪm/?
 
*Oes ymchwil ar hyd sillafau acennog mewn geiriau lluosill Cymraeg. Rwy'n dod o'r de ac mae llafariaid lled-hir ynghanol geiriau gyda fi, felly dyma'r hyn sy'n dod allan o fy ngheg i fel arfer (rwy'n credu!):
{| class="wikitable"
|-
! strwythur
! ynganiad
! enghraifft
! ynganiad
|-
| ˈVV
| ˈVˑV
| eog
| [eˑɔg]
|-
| ˈV{b,d,g,v,ð,χ,j,w}V
| ˈVˑCV
| tadau
| [taˑdɛ]
|-
| ˈV{m,n,l,r}V
| ˈVˑCV / ˈVCˑV
| tonau / tonnau
| [toˑnɛ / tɔnˑɛ]
|-
| ˈV{p,t,k,f,θ,s,ʃ,t͡ʃ,d͡ʒ,ŋ,ɬ}V
| ˈVCˑV
| gallu
| [gaɬˑi]
|-
| ˈVC̥C̥V
| ˈVC̥ˑC̥V
| holltu
| [hɔɬˑti]
|-
| ˈVC̥C̬V
| ˈVC̥ˑC̥V
| dathlu
| [daθˑli]
|-
| ˈVC̬C̥V
| ˈVC̬C̥ˑV
| antur
| [antˑɪr]
|-
| ˈVC̬C̬V
| ˈVC̬ˑC̬V
| blinder
| [blɪnˑdɛr]
|}
 
:Wrth gwrs mae eithriadau (mesen [meˑsɛn]) a byddai siaradwyr o rannau eraill o Gymru yn wahanol, e.e. am <tadau, tonau, tonnau>, ai [t̪ad̪̥ˑa, t̪ɔn̪ˑa, t̪ɔn̪ˑa] sydd ym Mangor, a beth am [tadaɪ, tɔnaɪ, tɔnaɪ] yn iaith plentyn o deulu di-Gymraeg yn ysgol Glantaf Caerdydd? Ydyn ni'n colli'r patrymau "traddodiadol" (fel uchod?) mewn rhannau mwy Seisnig o'r wlad a derbyn patrwm tebycach i'r Saesneg?
 
Hoffwn i ysgrifennu am bethau fel hyn ar Wicipedia, ond does dim tystiolaeth "swyddogol" gyda fi! Ydych chi'n gallu fy helpu?