Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sgwrs Defnyddiwr:Pwyll"

Ychwanegwyd 862 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
 
Helo, Pwyll, sut mae? Hoffwn ofyn yn gwrtais iti ddefnyddio'r templed uwchlwytho sydd gennym bellach ar [[Arbennig:Upload]] - dwi wedi sôn yn barod yn y Caffi nad yw'n dderbyniol cynnwys crynodeb geiriol yn unig, ond hytrach mae'n '''rhaid''' llenwi'r wybodaeth o dan "Gwybodaeth". Mae'n rhaid inni osod esiampl i gyfranwyr eraill, felly o hyn ymlaen, a wnei di ddarparu'r wybodaeth briodol, addas? Gwelaf nad oes fersiwn o [[:Delwedd:Clawr Chwalfa.jpg]] ar en, efallai oherwydd nad yw'n briodol cynnwys ar Wikipedia o gwbl, oherwydd hawlfraint (gwn dy fod wedi dweud mai o Amazon mae'n dod, ond dwi'n siŵr bo nhw hefyd yn perthyn ar y llun ei hun). Yn sgìl hynny, fe fydd yn rhaid dileu'r llun os nad wyt ti'n darparu'r wybodaeth angenrheidiol (mae'r wybodaeth ar gael yma: [[Nodyn:Gwybodaeth]]). Nid fi sy'n dweud hyn, ond rheolau Wiki. Mae'n rhaid inni ddechrau tynhau ein polisïau. -- '''[[Defnyddiwr:Xxglennxx|<font color="green">Xxglennxx</font>]]''' (''[[Sgwrs_Defnyddiwr:Xxglennxx|sgw.]]'' • ''[[Special:Contributions/Xxglennxx|cyf.]]'') 22:10, 26 Mai 2011 (UTC)
: Heia Glenn! Ie, iawn - dim problem. Pan uwchlwythais i'r ddelwedd ar gyfer y nofel "[[Yn Y Gwaed (nofel)|Yn Y Gwaed]]" daeth y nodyn i fyny'n awtomatig yn y blwch disgrifio ond doedd e ddim wedi ymddangos pan uwchlwythais i'r ail lun ar gyfer "Chwalfa". A oes modd gwneud rhywbeth er mwyn sicrhau ei fod yn ymddangos bob tro? Byddai hynny'n ei hwyluso'n fawr i unrhyw un sydd eisiau uwchlwytho delweddau.
: Fel ail beth, beth yw'r ffordd orau i uwchlwytho delweddau o gloriau llyfrau (neu DVDs, posteri ffilmiau a.y.b. o ran hynny) heb dorri'r hawlfraint? Mae nifer o erthyglau gyda ni a fyddai'n edrych gymaint yn well gyda lluniau, yn enwedig am y byddai'r lluniau'n esbonio beth mae'r erthygl amdano. Sut mae'r Wici Saesneg yn llwyddo i uwchlwytho lluniau o gloriau llyfrau ac ati heb dorri'r hawlfraint? [[Defnyddiwr:Pwyll|Pwyll]] 08:23, 27 Mai 2011 (UTC)
9,307

golygiad