Gâl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
Roedd y Celtiaid yn Gallia Cisalpina wedi cael eu goresgyn gan y
Rhufeiniaid tua'r [[3edd ganrif CC]]/[[ail ganrif CC]]. Yn [[89 CC]] a [[49 CC]] cawsant ddinesyddiaeth Rufeinig. Ar ddechrau'r ail ganrif CC goresgynodd y Rhufeiniaid ran o dde Ffrainc a sefydlu talaith [[Gallia Narbonensis]] yno. Ond doedden nhw ddim yn fodlon ar hynny. Yn [[58 CC|58]]-[[51 CC]] arweiniodd [[Iŵl Cesar]] ei [[RhestrLleng llengoedd RhufeinigRufeinig|llengoedd]] i weddill Gâl a'i chwncweru ar ol nifer o frwydrau
caled yn erbyn y Galiaid. Cafodd y wlad ei rhannu'n dair talaith
gan yr ymerodr [[Augustus]] yn [[27 CC]]: [[Galla Belgica]] yn y gogledd-ddwyrain, [[Galla Aquitania]] yn y de-orllewin a [[Gallia Lugdunensis]] yn y canol. Sefydlwyd dinas Lugdunum ([[Lyons]]) fel [[coloni]] yng nghanol y "Tair Gâl" (''Tres Galliae'') hyn yn [[43 CC]]. Gwasanethai Lugdunum fel canolfan weinyddiaeth i'r llwythau hefyd, ac roedd y [[Concilium Galliarum]] ("Cyngor y Galiaid") yn cwrdd yn y ddinas newydd i setlo anghydfod.