Penmaenmawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: gd:Penmaenmawr
dileu brawddeg gamarweniol - ar sail golwg ar y map OS, nid mwy na llond llaw o dai a fedrent fod yn y parc
Llinell 6:
Mae '''Penmaenmawr''' yn dref ym mhlwyf [[Dwygyfylchi]], yng ngogledd-orllewin Sir [[Conwy (sir)|Conwy]], gogledd [[Cymru]], poblogaeth tua 4,000. Mae'n dref glan môr sydd wedi tyfu o gwmpas y chwarel, ond nid oes llawer o bobl yn gweithio yn y chwarel bellach. Mae'n sefyll ar arfordir y gogledd rhwng tref [[Conwy (tref)|Conwy]] a [[Bangor]], ar yr [[A55]]. Mae ganddi orsaf ar [[Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru|Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru]]. Mae iddi dri ward, pob un a'i gymeriad ei hun; Penmaenan yn y gorllewin, Pant-yr-afon yn y canol a phentref [[Dwygyfylchi (pentref)|Dwygyfylchi]] yn y gorllewin.
 
Bu newid mawr yn sgîl creu'r lôn ddeuol newydd, yr "Expressway" (A55) yn y [[1980au]], pan gollodd y dref ran helaeth o'i phromenâd cyfnod [[Edwardaidd]] oedd yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ond codwyd un newydd yn ei le. Mae Penmaenmawr yn nodedig am ei llwybrau cerdded ar y bryniau a'i golygfeydd hardd. Mae [[Bwlch Sychnant]] yn denu ymwelwyr, ac mae rhan o'r dref yn gorwedd ym [[Parc Cenedlaethol Eryri|Mharc Cenedlaethol Eryri]].
 
==Daearyddiaeth==