Sgwrs Delwedd:Montage Abertawe1.png: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
close, but no cigar
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae'r montage hwn yn torri hawlfraint (er gwaethaf [http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Abertawe&diff=1011594&oldid=1006112 honiad Pwyll]), o achos diffyg o gydnabyddiaeth o'r crëwyr gwreiddiol ar y dudalen disgrifio. Er enghraifft, [[:Delwedd:Swansea Bay - geograph.org.uk - 564136.jpg]] yw'r llun cyntaf a gynhwysir ynddo. Rhyddhawyd y llun hwnnw gan ei grëwr, Jo Henshaw, dan y drwydded CC-BY-SA-2.0. Dan amodau'r drwydded honno, ''rhaid cydnabod y crëwr yn y modd a bennwyd ganddo/i''. Yn yr achos hwn, os dilynwch y dolenni perthnasol, gwelwch mai'r canlynol yw'r modd o gydnabyddiaeth a elwir arno: "Attribution — You must attribute [http://www.geograph.org.uk/photo/564136 Swansea Bay] to [http://www.geograph.org.uk/profile/17597 Jo Henshaw] (with link)." Dim ond y drwydded honno sy'n rhoi unrhyw hawl i gopïo'r llun; mae ei gopïo allan o amodau'r drwydded yn anghyfreithlon, felly; nid digonol yw dweud bod y llun yn dod o Gomin Wicifryngau heb roi manylion pellach. Wrth gwrs, dim ond un o'r lluniau yn y montage yw hwn; nid wn i am y gweddill, ond rhaid gwirio am bob un yn unigol (sy'n anodd heb fod 'na unrhyw dolenni atynt...) '''NEU:''' (yn llawer symlach) peidiwch â chreu eich montage eich hun; yn ei le, cynhwyswch y lluniau yn unigol yn yr erthygl yn unionsyth o Gomin Wicifryngau, a gwneir popeth ar eich cyfer yn awtomatig heb fod rhaid i chi ffwdanu amdano... [[Defnyddiwr:Peredur ap Rhodri|Peredur ap Rhodri]] 05:27, 31 Mai 2011 (UTC)
Return to the file "Montage Abertawe1.png".