Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhestrau copaon gwledydd Prydain ac Iwerddon"

ychw
(cat)
(ychw)
Y rhestr cyntaf i gael ei chreu yng ngwledydd prydain oedd y [[Munro|Munros]] a grewyd yn 1891 gan [[Syr Hugh Munro]], 4ydd Barwn (1856–1919). Galwodd bob copa dros 3000 [[troedfedd]] yn yr [[Alban]] yn "Funro" a chedwir rhestr gyfoes gan Glwb Mynydda'r Alban. Ceir 283 copa a ddiffinir fel "Munro" a 227 copa atodol. Yr enwocaf o'r math hwn ydy [[Ben Nevis]] sy'n 1,344 [[metr]] (4,409 tr).
 
==HuMP==
Ar wahân i'r math hwn, ceir nifer o restrau poblogaidd eraill e.e. Corbetts, Wainwrights a'r Marilyns.
Bryn neu fynydd ydy HuMP - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 100 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa, yn wahanol i [[Marilyn (mynydd)|Farilyn]] sydd ag uchder cymharol (drop yn Saesneg) o 150m neu fwy. Ceir tua 1,431 ohonyn nhw.
 
==Marilyn==
[[Delwedd:Pumlumon Fawr.jpg|bawd|220px|Un o Farilyns Cymru: Pumlumon Fawr]]
Bryn neu [[mynydd|fynydd]] ydy '''Marilyn''' - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 150 [[metr]], waeth pa mor uchel ydy'r copa. Bathwyd y term fel [[gair mwys]] i gyferbynnu â'r term a ddefnyddir yn [[yr Alban]]: [[Munro]]. Ceir 2,009 Marilyn: 1,216 yn yr Alban, 455 yn Iwerddon, 176 yn Lloegr, 5 yn Ynys Manaw a 157 yng Nghymru. Casglwyd y rhestr gan Alan Dawson yn ei lyfr 'The Relative Hills of Britain' ond mae'r rhestr hon yn cael ei diweddaru'n aml.
 
==Corbetts==