Rhestrau copaon gwledydd Prydain ac Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ychw
parhau
Llinell 2:
 
==Munros==
{{prif|Munro}}
[[Delwedd:Ben Nevis.jpg|bawd|Y Munro, [[Carn Dearg]] (1221 m), copa gogledd-orllewin [[Ben Nevis]], uwchben y cymylau.]]
Y rhestr cyntaf i gael ei chreu yng ngwledydd prydain oedd y [[Munro|Munros]] a grewyd yn 1891 gan [[Syr Hugh Munro]], 4ydd Barwn (1856–1919). Galwodd bob copa dros 3000 [[troedfedd]] yn yr [[Alban]] yn "Funro" a chedwir rhestr gyfoes gan Glwb Mynydda'r Alban. Ceir 283 copa a ddiffinir fel "Munro" a 227 copa atodol. Yr enwocaf o'r math hwn ydy [[Ben Nevis]] sy'n 1,344 [[metr]] (4,409 tr).
 
==HuMPHuMPs==
{{prif|HuMP}}
Bryn neu fynydd ydy [[HuMP]] - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 100 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa, yn wahanol i [[Marilyn (mynydd)|Farilyn]] sydd ag uchder cymharol (drop yn Saesneg) o 150m neu fwy. Ceir tua 1,431 ohonyn nhw.
 
==MarilynMarilyns==
{{prif|Marilyn (mynydd)}}
[[Delwedd:Pumlumon Fawr.jpg|bawd|220px|Un o Farilyns Cymru: Pumlumon Fawr]]
Bryn neu [[mynydd|fynydd]] ydy '''Marilyn''' - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 150 [[metr]], waeth pa mor uchel ydy'r copa. Bathwyd y term fel [[gair mwys]] i gyferbynnu â'r term a ddefnyddir yn [[yr Alban]]: [[Munro]]. Ceir 2,009 Marilyn: 1,216 yn yr Alban, 455 yn Iwerddon, 176 yn Lloegr, 5 yn Ynys Manaw a 157 yng Nghymru. Casglwyd y rhestr gan Alan Dawson yn ei lyfr 'The Relative Hills of Britain' ond mae'r rhestr hon yn cael ei diweddaru'n aml.
 
==Corbetts==
{{prif|Corbett}}
Copaon rhwng 2,500 a 3,000 (762.0 a 914.4 m) o droedfeddi ydy'r [[Corbett|Corbetts]], gydag uchder cymharol o dros 500 troedfedd (152.4 m). Lluniwyd y rhestr yn wreiddiol yn y 1920au gan John Rooke Corbett. Ceir 449 ohonyn nhw.
 
==Donalds==
[[Delwedd:Broad Law.jpg|bawd|Donald: [[Broad Law]], iseldir yr Alban, gan edrych tua'r copa.]]
Percy Donald a luniodd y rhestr o gopaon dros 2,000 o droedfeddi (609.6 metr). Dim ond yn iseldiroedd yr Alban mae'r copaon hyn. Mae'r fformiwla sy'n eu diffinio'n eitha cymhleth; mae'n rhaid i'r bryncyn o'r math hwn gael amlgygrwydd o 30 m (98 tr). Ceir 140 Donalds: 89 ohonyn nhw'n fryniau a 51 yn gopaon.