Katherine Philipps: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu, llun
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Bardd]], dramodydd ac awdures oedd '''Katherine Philipps''', neu '''Orinda''' (née Katherine Fowler, [[1 Ionawr]], [[1631]] - [[22 Mehefin]], [[1664]]). Roedd hi'n boblogaidd iawn yn ei dydd ac yn cael ei hadnabod fel '''The Matchless Orinda'''.
 
Cafodd ei eni yn [[Llundain]], ond treuliai cyfnodau hir yn ardal [[Aberteifi]] gyda'i gŵr James Philipps (priodasant yn [[1647]] pan oedd hi'n un ar bymtheg oed). Mae nifer o'i cherddi'n adlewyrchu ei chariad at [[Cymru|Gymru]] a'r iaith [[Gymraeg]]. Cyfansoddodd gerdd ar thema [[Gwladgarwch|wladgarol]] i [[Henry Vaughan]] ([[1621]] - [[1695]]), y bardd a meddyg o [[Dyffryn Wysg|Ddyffryn Wysg]].
 
Cyhoeddwyd casgliad o'i holl gerddi dan y teitl ''Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps)'' yn [[1664]].