Iwcs a Doyle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 24:
 
==Albwm a gigiau==
Ar sail eu llwyddiant yn ngystadleuaeth Cân i Gymru, penderfynnwyd recordio albwm o ganeuon Iwcs a Doyle, a rhyddhawyd ''[[Edrychiad Cynta']]'' ym 1997. Bu’r albwm yn llwyddiant ysgubol yn [[Radio Cymru|Radio Cymru “Siart Cytgord” Radio Cymru]] a threuliodd hi dros flwyddyn yn rhif un, sy’n gwneud yr albwm hon yr albwm fwyaf llwyddiannus erioed yng Nghymru, ar ôl ''[[Mwng (albwm)|Mwng]]'' gan y [[Super Furry Animals]]. Enwyd Iwcs a Doyle fel band mwyaf addawol Cymru yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod Genedlaethol Y Bala]] ym 1997. Teithiodd a gigiodd y deuawd lawer rhwng 1996-1998 gan berfformio mewn theatrau a thafarndai ar hyd a lled Cymru. Mae'n bosib mai un o'u gigiau gorau oedd pan wnaethant berfformio fel un o'r prif actiau yn [[Sesiwn Fawr Dolgellau]] 1997 a 1998.
 
Nodweddir eu cerddoriaeth gan arddull acwstic werinol a [[Pop Cymraeg|pop]] gyda darnau gitâr cofiadwy gan John Doyle, oedd yn aml yn ymestyn yn achlysurol i arddull funk.