Arctic Monkeys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 18:
== Beirniadaeth Ohonynt a'u Hymddygiad Dadleuol ==
 
I raddau helaeth mae'r band wedi cael eu beirniadu yn sgil yr holl sylw a wnaeth y Wasg ohonynt wrth i'w poblogrwydd gynyddu. Cawsant eu disgrifio gan y beirniaid fel un band ymysg rhestr faith o fandiau a gafodd eu heipio'n ormodol gan [[NME]]. Yn ogystal â hyn, wrth iddynt ryddhau'r EP [['Who The Fuck Are The Arctic Monkeys?']] dim ond tri mis ar ôl llwyddiant ysgubol eu halbwm cyntaf, gwelodd rhai hyn fel petaent yn ceisio cymryd cymaint o arian a phosib wrth eu cefnogwyr. Atebodd y band y feirniadaeth hyn trwy ddatgan eu bod yn rhyddhau cerddoriaeth newydd yn rheolaidd, nid i wneud arian ond yn hytrach er mwyn osgoi'r "diflastod" o dreulio tair blynedd yn teithio o amgylch y wlad gydag un albwm.
 
Roedd clawr yr albwm [[Whatever People Say I Am, That's What I'm Not]], a ddangosai Chris McClure, ffrind i aelodau'r band yn ysmygu sigaret hefyd wedi cael ei feirniadu gan y Gwasanaeth Iechyd yn yr Alban am atgyfnerthu'r syniad fod ysmygu'n dderbyniol. Dangosodd glawr y CD ei hun lun o flwch-llwch yn llawn sigarennau. Gwadodd rheolwr cynnyrch y band yr honiad gan ddadlau'r gwrthwyneb. Dywedodd "You can see from the image smoking is not doing him the world of good".