Enoc Huws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
adfer cyfraniad Defnyddiwr:Bratiaith ond wedi gwirio'r iaith
Llinell 3:
Mae'n rhoi hanes Enoc Huws, a fagwyd i fyny fel plentyn amddifad ond sydd, trwy waith caled, gonestrwydd a charedigrwydd, yn dod yn fasnachwr llwyddiannus. Mewn gwrthgyferbyniad, y prif gymeriad arall yw Capten Trefor, twyllwr di-egwyddor sydd yn ymddangos wedi ennill cyfoeth mawr yn y diwydiant mwyngloddio plwm, ac sydd yn denu eraill i 'fuddsoddi' yn ei fenter. Ofnwn y bydd Enoc Huws, sydd â golwg ar Susan, merch y Capten, yn cael ei ddifetha yn yr un ffordd.
 
==Themâu==
Er yn thema ddifrifol, mae ambell i ddigwyddiad doniol iawn yn cael eu hadrodd, yn enwedig yn y perthynas rhwng Enoc a'i forwyn, Marged.
Er yn thema ddifrifol, mae ambell i ddigwyddiad doniol iawn yn cael eu hadrodd, yn enwedig yn y perthynas rhwng Enoc a'i forwyn, Marged. Tu ol i'r hiwmor fodd bynnag, gwelir elfennau gwir a thywyll. Gellir ystyried ymddygiad Marged yng nghyd-destun safle menywod yn y cymdeithas Fictoriaidd. Gwelir ofn merched y cyfnod o'r [[tloty]]. Mae ymddygiad y Plismon (er hefyd yn ddoniol) yn dangos llwfrdra a strwythur dosbarth y gymuned: cawn fechgyn o deuluoedd "da" yn meddwi ac yn cael eu hebrwng adref er mwyn i'w teuluoedd roi "anrheg" ir plismon tra bod bechgyn o deuluoedd llai parchus yn meddwi ac yn cael eu hebrwng i'r ddalfa. Gellir dadlau mai llun go gymhleth sydd i'w weld yn y nofel.
 
Brwydr rhwng y da a'r drwg yw thema'r llyfr ond mae tro annisgwyl tuag at ddiwedd yr hanes sy'n creu amheuaeth a yw'r da am orchfygu.