Ffermwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Person sy'n gweithio mewn amaethyddiaeth, i fagu da byw, neu i dyfy bwyd neu ddeunydd crai, yw '''ffermwr'''. Gall ffermwr fod yn berchen ar ei d...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:54, 7 Mehefin 2011

Person sy'n gweithio mewn amaethyddiaeth, i fagu da byw, neu i dyfy bwyd neu ddeunydd crai, yw ffermwr. Gall ffermwr fod yn berchen ar ei dir ei hun, neu rhentu tir, neu yn llai aml, gall ffermio tir ar gyfer pobl eraill. Fel arfer cysidrir eraill sy'n gweithio ar ran y ffermwr yn weithwyr fferm, ac nid ffermwyr.

Bydd ffermwr fel arfer yn gwneud cyfuniad o amryw o brthau gan gynnwys tyfu cnydau mewn caeau, perllan, gwinllan, magu dofednod neu dda byw arall megis gwartheg, moch neu ddefaid. Gall gwerthu eu cynnyrch i farchnad, archfarchnad neu mewn marchnad ffermwyr, neu yn syth o siop y fferm. Mewn economi ymgynhaliol, bydd cynnyrch y fferm yn cael ei ddefnyddio gan deulu'r fferm neu'r gymuned, yn hytrach na'i werthu.

Eginyn erthygl sydd uchod am amaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.