Owen Morgan Edwards: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 38:
| nodiadau =
}}
Arolygwr ysgolion, llenor a chyhoeddwr cylchgronnau i oedolion ac i blant oedd '''Owen Morgan Edwards''' ([[26 Rhagfyr]] [[1858]] – [[15 Mai]] [[1920]]).
 
==Bywgraffiad==
Ganwyd Edwards ar 26 Rhagfyr 1858 yng ''Nghoed-y-pry'', [[Llanuwchllyn]],<ref>{{dyf llyfr| url=http://books.google.co.uk/books?id=q-9LxdX7N9AC&pg=PA76&lpg=PA76&dq=%22coedypry,+Llanuwchllyn%22&source=web&ots=LIjq0AKlrN&sig=qfCEdbh3CS16xcBbgr6TXCqBDiM&hl=en&sa=X&oi=book_result&resnum=3&ct=result#PPA77,M1| teitl=Dictionary of British Educationists| awdur=Richard Aldrich, Peter Gordon| cyhoeddwr=Routledge| blwyddyn=1989| isbn=9780713001778}}</ref> yn fab i Owen Edwards, ffermwr, ac Elizabeth.<ref name="Cyfrifiad 1871">Cyfrifiad 1871, Coedypry, Llanuchwllyn. RG 10/5685</ref> Cafodd ei addysg yn ysgol y plwyf cyn mynychu [[Ysgol Ramadeg y Bala]], ac yna [[Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth]]. Oddi yno aeth i [[Glasgow]] am gyfnod ac yna i [[Coleg Balliol, Rhydychen|Goleg Balliol, Rhydychen]] lle 'roedd yn un o sefydlwyr [[Cymdeithas Dafydd ap Gwilym]]. Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern.
 
Cafodd yrfa hir fel golygydd cylchgronau. Dechreuodd fel cyd-olygydd ''[[Cymru Fydd (cylchgrawn)|Cymru Fydd]]'' ([[1889]]-&ndash;[[1891]]), cylchgrawn y mudiad gwleidyddol o'r un enw (gweler [[Cymru Fydd]]). Yn 1891 dechreuodd olygu a chyhoeddi y cylchgrawn ''[[Cymru (cylchgrawn)|Cymru]]'' (1891-&ndash;[[1920]]) yn fisol, a adwaenir yn aml fel y "''Cymru Coch''", oherwydd lliw y clawr. Yn yr un flwyddyn dechreuodd gyhoeddi y cylchgrawn misol i blant ''[[Cymru'r Plant]]''; ar ei anterth yn [[1900]] roedd hwn yn gwerthu tua 40,000 o gopïau y mis, sy'n ei wneud y cyhoeddiad mwyaf poblogaidd erioed yn [[hanes Cymru]].
 
Yn 1907 dewiswyd ef yn brif arolygydd ysgolion Cymru. Ynghyd a'r gwaith hwnnw roedd yn ymroddedig i greu yn ei gyd-Gymry falchter yn eu hanes, ei hiaith a'u diwylliant, ac i'r perwyl hyn fe ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg wedi eu hysgrifennu mewn arddull a oedd yn apelio at y darllenydd cyffredin.
Llinell 78:
''Coed-y-pry'', Llanuwchllyn oedd cartref O.M. Edwards a'i deulu yn 1871, roedd ei dad yn ffermwr 17 acer ar y pryd.<ref name="Cyfrifiad 1871" /> Yn ystod cyfrifiad 1881 roedd yn lletywr yn Meyrick House, [[Dolgellau]], rhestrwyd ei alwedigaeth fel ''Minister Calvinistic Methodist Body''.<ref>Cyfrifiad 1881, Meyrick House, Meyrick Street, Dolgellau. RG 11/5546</ref> Erbyn 1891, roedd yn byw adref gyda'i rieni unwaith eto yng ''Nghoedypry'', rhestrwyd ei alwedigaeth fel athro hanes. Roedd ei frodyr, Thomas (melinydd), Edward (myfyriwr athroniaeth) a John M. (myfyriwr diwinyddiaeth) hefyd yn byw gyda hwy.<ref>Cyfrifiad 1891, Coedypry, Llanuchwllyn. RG 12/4639</ref> Priododd Ellen Elizabeth Davies yn fuan ar ôl hynny.<ref>Mynegai Cofrestr Priodasau Lloegr a Cymru: Owen Morgan Edwards & Ellen Elizabeth Davies; chwarter cofrestr: Ebrill&ndash;Mehefin 1891; Ardal cofrestru: Bala; Cyfrol: 11b; Tudalen; 597.</ref> Roedd Edwards yn byw ym ''Mryn-yr-aber'', Llanuwchllyn yn ystod cyfrifiad 1901, gyda'i wraig, ei fab Evan ab Owen a'i ferch, Haf. Roedd dwy forwyn hefyd yn byw gyda'r teulu. Rhestrwyd ei alwedigaeth fel ''Fellow of College & Lecturer''.<ref>Cyfrifiad 1901, Glanaber, Llanuchwllyn. RG 13/1520</ref>
 
==FfynonellauCyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
<references/>
 
==Dolenni allanol==
*[http://ead.llgc.org.uk/arddangos_fs.php?iaith=cym&saan=0000172810 'Papurau O. M. Edwards' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru]
*[http://www.rootsweb.com/~wlsmer2/Cartrefi/index.htm Testun ''Cartrefi Cymru''' oar rootsweb.com]
 
{{dechrau-bocs}}