Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cwmcafit (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Haia. dw i'n gweld dy fod wedi uwchlwytho delwedd, sef ciplu o wefan Gombel's ar yr erthygl [[Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru]]; popeth yn iawn - ond fedra i ddim gweld y cyfeiriad at y testun sydd gen ti o dan y llun, sef 'Yn ddisgrifiad cynnyrch mygydau mae'n nodi'n glir mai dim ond cartrefi gofal yn Lloegr y gallai'r cynnyrch hwn gael ei brynu, o dan orchmynion gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.' Dylai'r ciplun ddangos hynny. Hefyd, fe dynnwyd y llun i lawr o Comin - yr un sydd wedi'i uwchlwytho ar Wicipedia yw'r un sy'n ymddangos. Efallai y byddai ciplun mwy manwl o'r union eiriad yn well - a'i uwchlwytho i WP yn hytrach na Comin, ar drwydded defnydd teg. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 13:49, 17 Ebrill 2020 (UTC)
:Helo [[Defnyddiwr:Llywelyn2000]]! Odi fe'n iawn nawr, mae o dan 'product details'? Neu ydych chi eisiau fi cropio y ciplun? [[Defnyddiwr:Cwmcafit|Cwmcafit]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Cwmcafit|sgwrs]]) 14:22, 17 Ebrill 2020 (UTC)
 
::Haia. Mae Comin ar gyfer lluniau y gellir eu defnyddio dan ddeddfau POB gwlad. Dyna pam y dilewyd y llun o Comin. Mae Wicipedia'n caniatau defnydd teg. Ond i lun ffitio'r defnydd yma, mae'n rhaid iddo fod yn gydraniad isel! Yn y cyswllt yma (gan nad erthygl ar wefan Gombel's yw hon, dim ond y geiriau ar y gwaelod dde sy'n bwysig mewn gwirionedd, ac efallai hanner pen y dyn er mwyn rhoi'r cyd-destun. Drwy wneud hyn, mi geith y testun fwy o le / ffocws, ac ni fydd Gombel's yn ein siwio am ddwy lluniau o'u gwefan!!! Sori am y niwsans yma, ond mae cyfreithiau lluniau, testun ayb yn anhygoel o gymhleth, nenwedig pan rwyt yn son am gymaint o wahanol wledydd. Da nio'n fwy llac na'r rhan fwyaf ar Wici Cymraeg! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 14:49, 17 Ebrill 2020 (UTC)