Diwrnod Owain Glyn Dŵr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
== Dathliadau 2008 ==
Yn 2008, gydag [[Alun Ffred Jones]] [[AC]] ([[Plaid Cymru]]) yn Weinidog Treftadaeth yn [[Llywodraeth Cymru]], cyhoeddodd [[Cadw]] eu bod am chwifio baner Owain Glyndŵr ar gestyll [[Castell Caernarfon|Caernarfon]], [[Castell Caerffili|Caerffili]], [[Castell Conwy|Conwy]] a [[Castell Harlech|Harlech]]. Ymosodwyd ar y tri chastell cyntaf, a godwyd gan y Saeson, gan luoedd y Tywysog a bu [[Castell Harlech]] yn ei feddiant ac yn gadarnle pwysig yn y gwrthryfel. Mae'r faner yn cael ei hedfan yn [[Amgueddfa Werin Sain Ffagan]], [[Amgueddfa Lechi Cymru]] yn [[Llanberis]] a'r [[Pwll Mawr]] ym [[Blaenafon|Mlaenafon]] hefyd. Yn nhref [[Dinbych]] penderfynodd y Cyngor hedfan Baner Glyndŵr ar adeiladau'r cyngor (ymosodiad Glyndŵr ar Ddinbych, tref garsiwn Seisnig ar y pryd, oedd un o ddigwyddiadau cyntaf y gwrthryfel). Ym [[Machynlleth]], lle cynhelid [[Senedd]] Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel, trefnwyd dathlu am dri ddiwrnod gyda sesiynau barddoni dan arweiniad [[Twm Morys]] a [[Meirion MacIntyre Huws|Meirion MacIntyre]] a gweithgareddau eraill.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7610000/newsid_7617300/7617396.stm BBC Cymru, Newyddion, 16 Medi 2008] "Chwifio baner Owain Glyndwr".</ref>
 
Erbyn 2011, mae'r Ŵyl yn ennill ei phlwyf. Cynhelir achlysur i goffáu'r arwr yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog-fawr, yn ogystal â mannau eraill.
 
== Cyfeiriadau ==