Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Assyria"

Ychwanegwyd 1 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(dim angen }})
BNo edit summary
 
Ardal o amgylch rhan uchaf [[Afon Tigris]] yn yr hyn sydd heddiw yn [[Irac]] oedd '''Assyria'''
([[Acadeg]]: '''''Aššur'''''). Defnyddir yr enw hefyd am y wladwriaeth a sefydlwyd yn yr ardal yma, a dyfodd yn ymerodraeth. Daw'r enw o enw'r brifddinas wreiddiol, [[Assur]].
 
Yn ystod y cyfnod cynnar, o'r 20fed ganrif CC hyd y 15fed ganrif CC, roedd Assyria yn rheoli'r rhan fwyaf o ran uchaf [[Mesopotamia]]. O'r cyfnod yma hyd y 10fed ganrif CC, lleihaodd ei grym, cyn iddi ennill grym eto trwy orchfygu ei chymdogion. Ymestynnodd ei dylanwad ymhellach dan [[Ymerodraeth Newydd Assyria]], 911 CC hyd [[612 CC]]. Dan ei brenin [[Ashurbanipal]], a deyrnasodd o [[668 CC]] hyd [[627 CC]], roedd yr ymerodraeth yn ymestyn cyn belled a'r [[Yr Hen Aifft|Aifft]]. Yn ddiweddarach, collwyd yr ymerodraeth yn dilyn goresgyniadau [[Babilon]] a [[Persia]].