Afon Dwyryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau) B corr |
|||
Llinell 17:
Er fod yr afon Ddwyryd a’i llednentydd yn symyd yn ôl a blaen ar dywod y Traeth Bach, rhwng [[Talsarnau]] i'r de a [[Penrhyndeudraeth|Phenrhyndeudraeth]] i'r gogledd, nid oedd yn mynd ond rhyw ychydig yma ac acw. Ond ar noswyl Nadolig 1816 (dyma’r “Flwyddyn heb Haf” gyda llaw, a anfarwolwyd gan [[Gwallter Mechain]], a ddilynodd ffrwydriad enwog llosgfynydd Tambora yn Ebrill 1815 ac a barodd i’r tywydd fod yn ansefydlog am beth amser wedyn) fe fu symudiad mawr anesboniadwy yng nghwrs yr afon yn y fan hon. Mae ynys fechan gron ar ganol y traeth a thŷ annedd arni o’r enw “[[Ynys Gifftan]]”. Cyn 1816 yr oedd yr afon yn rhedeg i’r môr yr ochr agosaf i Dalsarnau i’r ynys ond un noswaith (yn ôl cofnod manwl mewn hen Feibl teuluaidd ym meddiant teulu lleol) bu llif mawr, ac yn ddirybudd, fe drodd yr afon i ochr Minffordd i’r ynys gan ei ynysu o gyfeiriad cartref y perchennog. Ar yr ochr yma yn ôl pob golwg y mae wedi llifo am dros ganrif a hanner heb argoel ei bod am droi yn ôl i’r hen wely.
==Cyfeiriadau==
|