William Henry Preece: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Marconi a Radio: Erthygl newydd using AWB
cabgym 'bawd' dwbwl a manion eraill, replaced: 'roedd → roedd (2) using AWB
Llinell 10:
 
== Bywyd cynnar ==
Ganwyd Preece ym Mryn Helen, [[Bontnewydd, Arfon|Bontnewydd]], [[Sir Gaernarfon]] yn fab hynaf i Richard Matthias Preece a oedd wedi dod i'r Gogledd o'r [[Y Bont-faen|Bontfaen]] ym Morgannwg a phriodi merch o [[Caernarfon|Gaernarfon]]. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Coleg y Brenin ([[Y Strand]], [[Llundain]] ar y pryd) cyn mynychu [[Coleg y Brenin, Llundain]]. Bu hefyd yn astudio wrth draed [[Michael Faraday]] yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain. Faraday a daniodd ynddo diddordeb oes mewn [[trydan]]. Yn [[1870]] ymunodd a'r [[Swyddfa Bost Gyffredinol|Swyddfa Bost]] - a bu yno am 29 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn cyfrannodd i nifer o ddyfeisiadau a gwelliannau; gan gynnwys system signal a ychwanegodd yn sylweddol i ddiogelwch y [[Rheilffordd]]. Bu'n flaengar ym myd telegraff - a datblygodd ei gyfundrefn ddiwifr ei hun yn [[1892]]. Dibynna hwn ar [[Anwythiant trydanol|anwythiad electromagnetig]]. Er i Preece lwyddo i anfon negeseuon ar draws [[Môr Hafren]], pellter hyd at ryw 3.1 milltir, mi 'roedd y drefn yn anhylaw - yn dibynnu ar drosglwyddydd a derbynnydd milltiroedd o hyd. Er hynny, daliodd ati i anfon negeseuon dros gulforoedd eraill megis [[Afon Menai]] a'r Solent, o'r tir i oleudy (e.e. [[Ynysoedd y Moelrhoniaid]]) a rhwng pyllau glo a'i gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn bu Preece yn gyfrifol (gyda George Gabriel Stokes<ref>{{Cite web|url=https://www.giffordlectures.org/lecturers/george-gabriel-stokes|title=George Gabriel Stokes|date=|access-date=22/2/19|website=The Gifford Lectures|last=Petrunic|first=Josipa|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> ag eraill) am ddigalonni [[David Edward Hughes]] yn ei ymchwil ([[1879]]) a fyddai, mae'n debyg, wedi arwain at ddarganfod tonnau radio. Mynnai'r "arbenigwyr" mai anwythiad oedd yr hyn yr oedd Hughes wedi'i ganfod. Mae'n debyg nad oedd Preece yn arbennig o hyblyg a'i syniadau a bu dadlau (diddichell) rhyngddo a sawl cawr yn ei faes gan gynnwys Oliver Lodge<ref>{{Cite web|url=https://www.electronics-notes.com/articles/history/pioneers/sir-oliver-lodge-biography.php|title=Sir Oliver Lodge|date=|access-date=22/2/19|website=Electronics Notes|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> ac Oliver Heaviside<ref>{{Cite journal|url=https://physicstoday.scitation.org/doi/10.1063/PT.3.1788|title=Oliver Heaviside: A first-rate oddity|last=Hunt|first=Bruce|date=2012|journal=Physics Today|volume=65 (11)|pages=48-}}</ref> dros y blynyddoedd
 
Yn [[1880]] dyfarnodd yr Uchel Lys mai telegram oedd y teleffon newydd. Gan mai'r Swyddfa Bost oedd a phob hawl rheoli technoleg y telegram yng ngwledydd Prydain, bu Preece yn rhan o'r broses o gyflwyno teleffon [[Alexander Graham Bell]] yma. Yn 1881 manteisiodd y Swyddfa bost ar y sefyllfa trwy addasi rhai o'r cyfnewidfeydd i ddelio a teleffon. Yn Ne Cymru ([[Caerdydd]], [[Abertawe]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]]) y bu'r gyntaf o'r rhain. Yn [[1881]] etholwyd Preece yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ac yn [[1892]] fe'i hapwyntiwyd yn Brif Beiriannydd y Swyddfa Bost. Mae'n debyg y bu'n enwog am ei darlithoedd syml ac ymarferol i'r cyhoedd ar y datblygiadau newydd. Cyhoeddodd dau lyfr a nifer o bapurau ar y teleffon<ref>{{Cite book|title=The Telephone|last=William Henry Preece a Julius Maier|first=|publisher=Whittaker & Company|year=1889|isbn=|location=https://books.google.co.uk/books?id=Wdg3AAAAMAAJ|pages=}}</ref><ref>{{Cite book|title=A Manual of Telephony|last=William Henry Preece a Arthur James Stubbs|first=|publisher=Whittaker and Company|year=1893|isbn=|location=https://books.google.co.uk/books?id=g-4OAAAAYAAJ|pages=}}</ref>.
Llinell 16:
== Marconi a Radio ==
[[Delwedd:Guglielmo Marconi 1902.jpg|chwith|bawd|Guglielmo Marconi tua 1902. Darganfyddwr ymarferoldeb radio. Bu '''William Henry Preece''' yn allweddol yn ei yrfa.]]
Rhwng [[1885]] a [[1889]] roedd yr [[Almaenwyr|Almaenwr]] Heinrich Hertz<ref>{{Cite web|url=http://www-history.mcs.st-andrews.ac.uk/Biographies/Hertz_Heinrich.html|title=Heinrich Rudolf Hertz|date=2007|access-date=22/2/19|website=MacTutor History of Mathematics|last=J J O'Connor a E F Robertson|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> wedi gosod sylfaeni damcaniaethol tonfeddi radio - ac wedi gwneud sawl arbrawf i'w arddangos. Ond nid oedd wedi meddwl am ddefnydd ymarferol i'r ffenomen. Yn [[1894]], yn ddatblygiad o syniadau Herz, gwnaeth [[Yr Eidal|Eidalwr]] o'r enw Guglielmo Giovanni Maria Marconi<ref>{{Cite web|url=https://www.history.com/topics/inventions/guglielmo-marconi|title=Guglielmo Marconi|date=31 Ionawr 2019|access-date=22/2/19|website=History.com|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> arsylliadau tyngedfennol. Erbyn [[1895]] 'roedd yn argyhoeddedig ei fod wedi darganfod modd newydd (radio yn hytrach nag anwythiad) o ganfod signal o bellter. Anfonodd ei syniad i'r Weinyddiaeth Bost a Thelegraff yn [[Rhufain]]. Anwybyddwyd ei lythyr yn llwyr (yn wir ysgrifennwyd nodyn yn cyfeirio at y gwallgofdy lleol ar ei thraws). Sicrhaodd Marconi lythyr cyflwyniad i lysgennad yr Eidal yn [[Llundain]] gan gyfaill o ddiplomydd uchel a theithiodd, gyda'i fam, i [[Lloegr|Loegr]]. Ym mhorthladd [[Dover]] bu gryn ddiddordeb yn cynnwys ei fagiau ac ar unwaith anfonwyd neges i Bencadlys y [[Y Llynges Frenhinol|Llynges]]. Fe'i gwahoddwyd yno'n syth - lle'i cyflwynwyd i William Henry Preece. Dros y blynyddoedd i ddilyn bu Preece yn gefn ac yn gymorth iddo. Defnyddiodd Preece ei ddoniau cyfathrebu i gyflwyno syniadau Marconi i'r cyhoedd mewn dwy ddarlith dyngedfennol (Neuadd Toynbee, 11 Rhagfyr [[1896]] a'r Sefydliad Brenhinol, 4 Mehefin [[1897]]). Ar ôl arbrofion ar dir y fyddin ger [[Caersallog|Gaersallog]], ar 13 Mai [[1897]] danfonodd Marconi signal radio o Drwyn Larnog yn ne Cymru i [[Ynys Echni]], 3.7 milltir i ffwrdd ym [[Môr Hafren]]. Yn [[1892]] roedd Preece wedi defnyddio'r un lleoliad ar gyfer ei arbrofion ef ei hun.<ref>[http://www.100welshheroes.com/cy/biography/williamhenrypreece Arwyr Cymru] adalwyd 08 Tachwedd 2013</ref> Profodd hyn y gallai radio weithio dros ddŵr yn ogystal â thir ac felly fod o ddefnydd i'r Llynges hollbwysig ac i longau eraill. Preece oedd prif gynorthwyydd Marconi, gan sicrhâi iddo gefnogaeth ariannol o'r Swyddfa Bost.
 
Ym [[1901]], anfonodd Marconi signalau radio o [[Poldhu]], [[Cernyw]] i [[Newfoundland (ynys)|Newfoundland]], [[Canada]]. Ychydig wedi hynny adeiladodd Marconi orsaf radio bwerus yn [[Waunfawr|y Waunfawr]] ger [[Caernarfon]]; nepell o gartref William Preece. Tyfodd hwn i fod yn un o orsafoedd cyfathrebu (radio donfedd hir) pwysicaf [[Yr Ymerodraeth Brydeinig|Ymerodraeth Prydain]] am nifer o flynyddoedd (1912-1938)<ref>{{Cite web|url=https://www.coflein.gov.uk/cy/site/405838/details/marconi-long-wave-transmitting-station-waunfawr-transmitting-station-plas-y-celyn-cefn-du|title=Marconi long wave transmitting station, Waunfawr Transmitting Station, Plas y Celyn, Cefn Du|date=2009|access-date=27/2/19|website=Coflein|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. Felly, er i ymdrechion Preece ei hun i ddatblygu system ddiwyfr dros bellter fethu, roedd ei gymorth i Marconi'n allweddol yn natblygiad cyfathrebu torfol.