R. Tudur Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
→‎Addysg: cabgym 'bawd' dwbwl a manion eraill, replaced: ac hefyd → a hefyd using AWB
Llinell 5:
 
== Addysg ==
Yn un ar ddeg fe aeth ymlaen i Ysgol Ramadeg y Rhyl lle daeth dan ddylanwad [[T.I. Ellis]] ac [[S.M. Houghton|S.M. Houghton (tad Syr John Houghton)]]. Dan Ellis daeth Tudur i ddechrau ymgyfarwyddo a'r [[Groeg]] ac Houghton y'i cyflwynodd i weithiau a syniadau'r [[Piwritaniaid]] am y tro cyntaf. Yn y cyfnod hwn y cyfarfu un o'i gyfeillion oes, y nofelydd [[Emyr Humphreys]]. Er y gwrthwynebiad gan eu cyd-ddisgyblion roedd Tudur a'i gyfaill Emyr wedi dod i arddel [[cenedlaetholdeb]] ac fe'i hysbrydolwyd yn fawr wrth ddilyn hynt a helynt llosgi'r Ysgol Fomio yn 1936. Nid dim ond ei ddawn academaidd a'i Gymreictod oedd yn tyfu gwreiddiau yn y cyfnod hwn ond dwysaodd ei fywyd ysbrydol yn ogystal. Nododd iddo gael ei gyffwrdd yn arbennig gan bregeth o eiddo T. Glyn Thomas, Wrecsam aca hefyd gan bregeth o eiddo [[Martyn Lloyd-Jones]] a draddodwyd mewn ymgyrch efengylaidd ar bromenâd y Rhyl. Dyma'r noson lle 'taniodd y fatsien' fel y nododd mewn rhaglen ddogfen ar [[S4C]] yn y nawdegau.
 
Enillodd ysgoloriaeth i [[Coleg Yr Iesu, Rhydychen|Goleg Yr Iesu, Rhydychen]] ond mynnodd ei dad ei fod yn parhau a'i astudiaethau yng Nghymru ac felly i lawr y lein i Fangor yr aeth. Cofrestrodd i ddilyn cyrsiau Cymraeg, [[Hanes]] ac [[Athroniaeth]] a flwyddyn yn ddiweddarach cofrestrodd yn ogystal fel myfyriwr yng [[Coleg Bala-Bangor|Ngholeg Bala-Bangor]] gan nodi ei ddymuniad am y tro cyntaf i fod yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Canolbwyntiodd ei egnïon ym Mala-Bangor lle astudiodd Hanes yr Eglwys dan [[John Morgan Jones]], diwinydd mwyaf rhyddfrydol ei gyfnod yng Nghymru; ac [[Athroniaeth Grefyddol]] dan [[J.E. Daniel]] oedd yn arddel uniongrededd Awstinaidd, ef oedd un o brif ladmeryddion Barthiaeth yng Nghymru. Er fod gan Tudur barch o'r radd mwyaf at Morgan Jones fel academydd, Daniel yn sicr oedd y ffigwr mwyaf dylanwadol oherwydd iddo asio uniongrededd gyda gwleidyddiaeth – apelia'i hyn yn fawr at Tudur. Nododd Tudur mae Daniel '...a barodd imi sylweddoli pa mor gyfoethog oedd y traddodiad efengylaidd Cymraeg...' Graddiodd yn [[1945]] gyda'r marciau uchaf erioed i'w dyfarnu gan gyfadran Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru.