Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Galatiaid"

Ychwanegwyd 4 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
 
BNo edit summary
bedwar is-lwyth yr un (''tetrarchau''). Roedd eu hiaith, [[Galateg]], yn debyg iawn i'r iaith [[Galeg|Aleg]] a siaredid yng [[Gâl|Ngâl]].
 
Ymsefydlasant yng ngorllewin canolbarth [[Asia Leiaf|Anatolia]] ar ôl cael eu gwahodd yno gan y brenin [[Nicomedes I]] o deyrnas [[Bithynia]] i'w gynorthwyo yn erbyn y [[Persia]]id. Ymladdasant sawl gwaith yn erbyn brenhinoedd [[Pergamon]]; dethlir buddugoliaethau'r Pergamoniaid drsotynt mewn cyfres o gerfluniau enwog sydd wedi goroesi fel copïau Rhufeinig. Yn ddiweddarach daeth eu tiriogaeth yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], ond dim ond ar ôl brwydr hir i gadw eu hannibyniaeth a barodd o [[189 CC]] pan gollasant frwydr bwysig, hyd at [[25 CC]] pan greodd yr [[Ymerodron Rhufeinig|ymerodr]] [[Augustus]] dalaith [[Galatia]].
 
Ymddengys fod y [[Llythyr Paul at y Galatiaid|llythyr enwog at y Galatiaid]] gan [[Paul|Sant Paul]] yn annerch cymunedau[[Cristnogaeth|Cristnogol]] ifainc mewn rhannau gwledig o Galatia. Ymddengys fod yr iaith Alateg wedi parhau yn y parthau hynny hyd at y [[3edd ganrif|3edd]] neu'r [[4edd ganrif]] cyn iddi gael ei disodli gan yr iaith [[Groeg|Roeg]] ac ar ôl hynny [[Tyrceg]].
37,236

golygiad