Silwriaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

llwyth Celtaidd
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
creu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:30, 26 Ionawr 2007

Roedd y Silwriaid (Lladin: Silures]] yn llwyth oedd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal. Yn fras roeddynt yn byw yn yr hyn ddaeth yn nes ymlaen yn Sir Frycheiniog a Morgannwg. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Tacitus roeddynt yn bobl bryd-tywyll gyda gwallt cyrliog.

Llwythi Cymru tua 48 OC. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.

Yr oeddynt yn nodedig am ymladd yn ffyrnig yn erbyn y Rhufeiniaid. Tua 48 OC ffodd Caradog atynt wedi i'w lwyth ei hun, y Catuvellauni, gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid. Arweiniodd ef eu rhyfelwyr yn erbyn Publius Ostorius Scapula pan ymosododd Ostoriusarnynt hwy ac ar yr Ordofisiaid. Bu Ostorius yn ymladd yn hir yn eu herbyn heb eu concro'n derfynol, ac wedi iddo ef farw gorchfygasant[Legio II Augusta|yr Ail Leng]]. Dim ond tua 78 OC y gorchfygwyd hwy yn derfynol gan Sextus Julius Frontinus.

Prifddinas y Silwriaid yn y cyfnod Rhufeinig oedd Venta Silurum (Caerwent heddiw]]. Wedi'r cyfnod Rhufeinig daeth tiriogaeth y Silwriaid yn deyrnasoedd Gwent, Brycheiniog, Gwynllwg a Morgannwg. Enwyd y cyfnod Silwraidd mewn daeareg ar ôl y llwyth yma, gan i greigiau o'r cyfnod yma gael eu disgrifio gyntaf yn nhiriogaeth y llwyth.