Cymraeg ysgrifenedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B →‎Yr orgraff gyfoes: Gwybodlen Wicidata using AWB
Llinell 41:
**i ddynodi llafariad hir mewn sill olaf acennog megis '''iachâd''', '''caniatâ'''.
**ar '''w''' hir acennog yn '''pŵer''', '''ymhŵedd''', '''sŵoleg'''.

* '''[[didolnod]]''' '''¨''' i ddynodi '''i''' acennog megis yn '''copïo''', '''cwmnïau''', '''saernïaeth''', rhag ei chamgymryd am '''i''' gytseiniol. Ceir eithriadau i'r rheol hon ymysg rhai geiriau dwy sillaf megis '''dianc''', '''diod''', '''priod'''. Defnyddir y didolnod hefyd pan ddilyn dwy lafariad ei gilydd i ddangos nad deusain ydynt megis yn '''glöyn''', '''gloÿnnod''', '''glanhawr''', '''tröedigaeth'''. Ar y llafariad acennog y dodir y didolnod neu ar y llafariad gyntaf pan nad oes gwahaniaeth acen rhwng y ddwy lafariad.

*'''[[acen ddyrchafedig]]''' '''´''' yn gyffredinol i ddynodi lle'r acen pan ddisgyn ar fan anarferol gan gynnwys:
**ar lafariad fer acennog mewn sill olaf acennog neu pan ddigwydd amwyster megis '''ffárwel''', '''ffarwél'''.
**pan fo '''–áu''' derfynol yn acennog megis '''iacháu''', '''nacáu'''.

*'''[[acen drom]]''' (neu "ddisgynedig") '''`''' i ddynodi llafariad fer, gan amlaf mewn geiriau benthyg megis '''iòd''', ac i wahaniaethu rhwng geiriau â'r un sillafiad megis '''bỳs/bys''', '''mẁg/mwg'''.

*'''[[cysylltnod]]''' '''-''' fel a ganlyn:
**rhwng sillafau mewn cyfansoddeiriau clwm (geiriau cyfansawdd ag iddynt un acen yn unig) er mwyn hwyluso darllen y gair, e.e. '''budd-dal''' (neu '''budd-dâl'''), '''hwynt-hwy''', '''hyd-ddo''', '''rhydd-ddeiliad''', '''rhyng-genedlaethol'''.
**weithiau mewn cyfansoddeiriau llac (geiriau cyfansawdd lle mae'r elfennau wedi cadw acen) pan fo'r acen ar yr elfen gyntaf yn ddarostyngedig i'r acen ar yr ail (yn enwedig lle mae'r ail elfen yn unsillafog) megis '''ail-law''', '''cam-drin''', '''calon-galed''', '''di-sglein''', '''hunan-barch''', '''lled-orwedd''', '''pêl-droediwr''', '''pen-blwydd''', '''Tal-y-bont''', '''tra-dyrchafodd''', '''un-ffordd''' neu er mwyn hwyluso darllen y gair megis '''cyd-dynnu''', '''di-alw-amdano''', '''unig-anedig'''.
**Pan fod pwyslais ar ragddodiad megis '''cyd-fynd''', '''cyn-Brif Weinidog''', '''is-bwyllgor''', '''ôl-nodyn''', '''uwch-bwyllgor'''.

* '''[[collnod]]''' ' i ddynodi llythyren, sillaf neu air cyfan goll megis yn '''o'r''', '''colli'ch''', '''pleidleisio'n''', ''''nawr''', '''i'w''' mewn Cymraeg ffurfiol ac anffurfiol ac '''ata'i''', '''gwela'''', '''canan' nhw''', '''be'''', ''''steddfod''', ''''lly''' mewn Cymraeg anffurfiol.