Mwsoglu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
B →‎top: Gwybodlen Wicidata using AWB
Llinell 1:
'''Mwsoglu''' (cymh. calcio, S. ''caulking'') yw'r hen arferiad o wasgu [[mwsog]] i fewn i dyllau mewn [[waliau carreg]] bythynod rhag oerfel y gaeaf.<ref>''[[Cwm Eithin]]'', gan Hugh Evans, (tudalen 102), Gwasg y Brython, 1931.</ref> Gelwid y person a oedd yn mwsoglu yn 'fwsoglwr'.
 
Mae gan y bardd [[Walter Davies (Gwallter Mechain)|Gwallter Mechain]] gerdd am ferch yn 'mwsygla' a [[brwyna]] ar fryn ger [[Llanrhaeadr-ym-Mochnant]] yn [[y Berwyn]], a gyfansoddwyd yn Chwefror 1839. Dyma'r bennill agoriadol:
Llinell 24:
::"Yr oedd ym meddiant y mwysynwr fach bychan at y gorchwyl o dynnu mwswm.... Math arall oedd fachau llai, tebyg i grafanc ceiliog i'w ddefnyddio mewn llaw. Gwelir ar rai hen lyfrau vestries gofnodion am swm o arian wedi ei dalu i faswniaid am fwsynu toion eglwysi'r wlad."<ref>Cymru Evan Jones - detholiad o bapurau Evan Jones Ty'n Pant, Llanwrtyd, gol. Herbert Hughes (Gomer 2009)</ref>
 
Gall Hugh Evans yn hawdd fod yn disgrifio ''Fontinalis antipyretica'', a ddefnyddid yn Sweden yn oes Linnaeus i berwyl tebyg, sef mwsoglu simneau rhag tân (''fontinalis'': perthyn i ffynnon; ''antipyretica'': yn erbyn tân)<ref>Bwletin Llên Natur (Rhifyn 18)[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn32.pdf Bwletin Llên Natur (Rhifyn 18)]</ref> ond nid yw'n byw yn arbennig yn y mynydd. Dyma gynigiodd Tristan Hatton-Ellis, arbenigwr bywyd dŵr croyw gyda’r Cyngor Cefn Gwlad<ref>Bwletin Llên Natur rhifyn 50[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn50.pdf Bwletin Llên Natur rhifyn 50]</ref>:
 
:''It's possible that no other moss could suffice. In rivers, ''Fontinalis antipyretica'' can reach lengths of 1m or so. This and the fact that it is very common means that it would have been the right sort of material and potentially available in large amounts.''