Mynediad am Ddim: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu o'r Esboniadur
B Gwybodlen Wicidata using AWB
Llinell 8:
Yn 1975 cafwyd ychwanegiad allweddol at y chwe aelod gwreiddiol, sef Emyr Huws Jones, gŵr ifanc a oedd eisoes wedi gwneud ei enw gyda'r [[Tebot Piws]]. Un o'i ganeuon ef, sef 'Padi', a ddewiswyd pan aeth y band i'r stiwdio recordio am y tro cyntaf i gyfrannu un trac at y record amlgyfrannog Lleisiau (Adfer, 1975). Yn fuan wedyn ymadawodd Dewi Jones ac ymunodd Alun "Sbardun" Huws, un arall o gyn-aelodau'r Tebot Piws.
 
Yn 1976 penderfynodd Emyr Huws Jones gefnu ar berfformio, ond daliodd i gyfrannu caneuon. Llanwyd y bwlch gan Pete Watcyn Jones, gitarydd a mandolinydd profiadol. Wedi recordio record hir arall, 'Rhwng Saith Stôl' (Sain, 1977), trefnwyd taith i Lydaw (gyda [[Dafydd Iwan]]). Ar ôl y recordiad hwn gadawodd Alun 'Sbardun' Huws er mwyn canolbwyntio ar gyfeilio i [[Tecwyn Ifan]], a gadawodd Mei Jones, hefyd, er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa fel actor a dramodydd.
 
Yn 1978 gadawodd Pete Watcyn Jones ac ymunodd Geraint Davies, un o gyn-aelodau [[Hergest (band)|Hergest]], â'r band. Yn 1982 ymunodd Rhys Ifans (a fu gyda Bando) fel gitarydd bas. Yr aelodau hyn – Emyr Wyn, Robin Evans, Graham Pritchard, Geraint Davies a Rhys Ifans – oedd asgwrn cefn y band o hynny ymlaen. Yn niwedd yr 1990au ychwanegwyd [[Delwyn Siôn]] fel aelod achlysurol.
Llinell 20:
 
==Digwyddiadau a datblygu==
Un o ganeuon Emyr Huws Jones, 'Padi', a ddewiswyd pan aeth y band i'r stiwdio recordio am y tro cyntaf i gyfrannu un trac at y record amlgyfrannog ''Lleisiau'' (Adfer, 1975). Cafodd y band wythnos lwyddiannus iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Cricieth 1975, a daeth cyfle yn fuan wedyn i recordio record hir ar label Sain, Wa McSbredar, ar ôl un o ganeuon mwyaf poblogaidd y cyfnod hwnnw. Rhyddhawyd ail record hir, Mae'r Grŵp yn Talu (Sain, 1976), ac roedd pob cân bron naill ai o waith Emyr Huws Jones neu'n ganeuon/alawon traddodiadol, cyfuniad a fu'n sail i repertoire y band o hynny ymlaen. Buont yn teithio'n helaeth yng Nghymru a hefyd yn Iwerddon.
 
===Llydaw===
Yn 1977 rhyddhawyd record hir arall, Rhwng Saith Stôl (Sain, 1977), a threfnwyd taith i Lydaw (gyda Dafydd Iwan). Ar ôl y recordiad hwn gadawodd Alun 'Sbardun' Huws er mwyn canolbwyntio ar gyfeilio i Tecwyn Ifan, a hefyd Mei Jones er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa fel actor a dramodydd. Yn sgil profiadau Iwerddon a Llydaw, penderfynwyd canolbwyntio fwyfwy ar ganu gwerin traddodiadol. Trefnwyd taith arall gyda Dafydd Iwan – trwy Gymru y tro hwn – ac aed ati i recordio casgliad o ganeuon gwerin, gan anelu at farchnadoedd Celtaidd a thu hwnt yn ogystal â Chymru. Y canlyniad oedd rhyddhau Torth o Fara (Sain, 1978) – 17 o ganeuon, gyda phwyslais cyfartal ar y lleisiol a'r offerynnol. Teithiodd y grŵp i Lydaw eto dros yr haf. Yn sgil yr holl brysurdeb trafodwyd y posibilrwydd o droi'n broffesiynol, ond ni ddigwyddodd hynny.
 
Yn 1979 Mynediad am Ddim oedd un o brif atyniadau Gŵyl Guipavas ger Brest. Yn y cyfnod hwn recordiwyd y cyntaf o ddau gasét i'r Mudiad Ysgolion Meithrin, casgliad o hwiangerddi a chaneuon eraill i blant bach o'r enw Hwyl Wrth Ganu (dilynodd ail gasét, Hwyl yr Ŵyl, ar thema'r Nadolig, yn 1986).
 
===Pen-blwydd===