Tyranosor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
blwch tacson
B Gwybodlen Wicidata using AWB
Llinell 58:
[[Delwedd:Tyrannoskull.jpg|bawd|chwith|280px|Proffil o benglog (AMNH 5027)]]
 
Fel tyranosoridau eraill, cigysydd deudroed oedd y ''Tyrannosaurus'' a chanddo benglog anferth wedi'i gydbwyso â chynffon hir a thrwm. O'i gymharu a'i gymalau ôl mawr a chryfion, roedd cymalau blaen y ''Tyranosor'' yn fyr ond yn anghyffredin o gryf o ystyried eu maint a'r ddau fys crafangog.
 
Mae'r spesimen mwyaf cyflawn yn 12.3 metr (40 troedfedd) o hyd, er bod y Tyranosorws recs yn gallu tyfu yn fwy na hynny,<ref name="muestat">{{Cite web|url=https://www.fieldmuseum.org/sites/default/files/Sue%20Fact%20Sheet.pdf|title=A T. rex Named Sue|access-date=4 January 2019|website=The Field Musuem|publisher=The Field Musuem|archiveurl=https://web.archive.org/web/20160818213556/https://www.fieldmuseum.org/sites/default/files/Sue%20Fact%20Sheet.pdf|archivedate=2016-08-18}}</ref> hyd at 3.66 metr (12 troedfedd) o daldra wrth y cluniau, ac yn ôl yr amcangyfrifon mwyaf diweddar, gallai gyrraedd pwysai o 8.4 tunnell fetrig (9.3 tunnell fer).
 
Er bod theropodau eraill yn cystadlu â ac yn rhagori ar y ''Tyranosorws recs'' o ran maint, mae'n dal i fod ymysg yr ysglyfaethwyr mwyaf a chredir mai ganddo ef oedd y brathiad cryfaf o'r holl anifeiliaid oedd yn byw ar dir. Y cigysydd mwyaf yn ei amgylchedd o bell ffordd, roedd y ''Tyranosorws recs'' siwr o fod yn ben-ysglyfaethwr, yn ysglyfaethu ar hadrosorau, llysysyddion arfog fel seratopsiaid ac ancylosorau, ac o bosib sawropodau. Mae rhai arbenigwyr wedi awgrymu bod y deinosor yn sborionwr yn bennaf. Mae'r cwestiwn a oedd y ''Tyranosor'' yn ben-ysglyfaethwr neu'n sborionwr pur yn un o'r trafodaethau sydd wedi parhau hiraf mewn [[paleontoleg]]. Mae'r rhan fwyaf o baleontolegwyr heddiw yn derbyn bod y ''Tyranosor'' yn ysglyfaethwr ac yn sborionwr.
Llinell 67:
 
Fel y theropod archdeipaidd, ''Tyranosor'' yw un o ddeinosoriaid mwyaf adnabyddus yr 20g, ac mae wedi ymddangos mewn ffilmiau a hysbysebion, ar stampiau post, fel teganau plant, ac mewn nifer o gyfryngau eraill.
<br />
 
==Gweler hefyd==
* [[Deinosoriaid yng Nghymru]]
 
 
== Cyfeiriadau ==