Urdd Gobaith Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen Wicidata using AWB
Llinell 29:
== Hanes Urdd Gobaith Cymru ==
 
Cafodd '''Urdd Gobaith Cymru''' ei sefydlu yn 1922, ac mae wedi datblygu yn barhaus ers hynny. Yn rhifyn mis Ionawr 1922 o ‘Cymru’r Plant’ meddai Syr [[Ifan ab Owen Edwards]], „''Yn awr mewn llawer pentref, a bron ym mhob tref yng Nghymru, mae’r plant yn chwarae yn Saesneg, yn darllen llyfrau Saesneg, ac yn anghofio mai Cymry ydynt”.''
 
Apeliodd ar blant [[Cymru]] i ymuno a mudiad newydd i gynnig cyfleoedd trwy’r Gymraeg, ac o ganlyniad i hynny, sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru.
Llinell 55:
·      60% o holl ysgolion Cymru yn ymwneud â’r Urdd
 
·      [https://www.urdd.cymru/files/8015/4219/7322/Asesiad_Effaith_Economaidd_yr_Urdd_09.11.18_Cymraeg.pdf Cynhyrchu gwerth economaidd o £31miliwn i Gymru] 
 
Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru yw Sian Lewis.
Llinell 66:
* Gwersyll Caerdydd â phrofiadau dinesig ym Mae Caerdydd;
* Pentre Ifan, Sir Benfro yn datblygu arbenigedd amgylcheddol a lles;
*Tŷ Kisbodak Ház yn [[Hwngari]] sy'n cynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc Cymru.
 
Mae dros 47,000 o breswylwyr yn ymweld â Gwersylloedd yr Urdd yn flynyddol <ref>https://en.wikipedia.org/wiki/Urdd_Gobaith_Cymru</ref>.
Llinell 76:
== Darpariaeth Chwaraeon ==
 
Mae '''adran chwaraeon''' yr Urdd yn darparu cyfleodd ar draws Cymru i bob plentyn wirioni ar chwaraeon trwy raglen o wyliau a chystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.  Cefnogir hyn gan rwydwaith eang o glybiau chwaraeon lleol a rhaglen cymhwyso arweinwyr chwaraeon ifanc. Yn 2019 roedd 45,000 o bobl ifanc wedi cystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon rhanbarthol a chenedlaethol.
 
Mae'r Adran Chwaraeon, gyda chefnogaeth [[Chwaraeon Cymru]], bellach yn cyflogi 20 o staff ac yn hyfforddi dros 1,000 o wirfoddolwyr yn flynyddol. Mae hyn wedi trawsnewid gallu’r mudiad i gynnig gweithgareddau cyson i blant a phobl ifanc, gyda 150 o glybiau chwaraeon yn cael eu cynnal yn wythnosol ar draws y wlad, a dros 15,000 o blant yn mynychu.<sup>[4]</sup>
Llinell 83:
 
===Gemau Cymru===
Mae'r Urdd hefyd yn brif drefnwyr cystadlaethau blynyddol [[Gemau Cymru]] sydd ar gyfer [[Athletau|athletau]], [[Gymnasteg|gymnasteg]] a rhai campau eraill fel [[Tenis bwrdd|tenis bwrdd]]. Cynhelir y cystadlaethau yng Nghaerdydd ac yn [[Gwersyll yr Urdd Glan-llyn|Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn]].<ref>http://gemaucymru.urdd.cymru/cy</ref>
 
== Celfyddydau a Diwylliant ==
Llinell 109:
== Gweithgareddau Awyr Agored ==
 
Mae'r Gwasanaeth Awyr Agored yn cynnig gweithgareddau anturus i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Cynllunnir y gweithgareddau yn unol ag anghenion y grŵp ac ynghyd a chymwysterau a hyfforddiant awyr agored. Dyma un o’r gwasanaethau sydd yn datblygu’n gyflym ac yn boblogaidd iawn gyda phobl ifanc 15oed+. Urdd Gobaith Cymru yw darparydd mwyaf o alldeithiau Gwobr Dug Caeredin (DOFE) yn y Gymraeg yng Nghymru.
 
== Gwirfoddoli ==
 
Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael yn yr Urdd a thrwy ei phartneriaid allanol. Gall pobl ifanc ac oedolion gwirfoddoli trwy arwain adrannau ac aelwydydd, clybiau chwaraeon, ymweliadau a theithiau preswyl rhyngwladol, swyddogaethau amrywiol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a thrwy fod yn SWOG yn un o ganolfannau preswyl yr Urdd. Yn flynyddol mae 10,000 o bobl ifanc ac oedolion yn gwirfoddoli i’r Urdd.
 
== Gwaith Dyngarol a Neges Heddwch ac Ewyllys Da ==
Llinell 133:
== Cyhoeddiadau ==
[[Delwedd:Mistar Urdd .png|alt=Mistar Urdd|bawd]]
Cynhyrchir 3 cylchgrawn i bant a phobl ifanc:
 
'''Bore Da''' — cylchgrawn lliwgar a chyffrous i ddysgwyr a siaradwyr ail-iaith oed cynradd;
Llinell 143:
== Mistar Urdd ==
 
'''Mistar Urdd''' (Mr Urdd) yw masgot yr Urdd, wedi seilio ar logo a bathodyn Urdd Gobaith Cymru, mae yn boblogaidd gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion. Mae gan Mistar Urdd ei gân ei hun sef „Hei Mistar Urdd“.
 
== Cyfeiriadau ==