William Lewis, Barwn 1af Merthyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau) B corr |
B Gwybodlen Wicidata using AWB |
||
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality={{banergwlad|Cymru}}|dateformat=dmy}}
[[Delwedd:Sir_William_Lewis.jpeg|bawd|
Roedd '''William Thomas Lewis, Barwn 1af Merthyr''' ([[5 Awst]] [[1837]] - [[27 Awst]] [[1914]]), oedd yn cael ei adnabod fel '''Syr William Lewis, Barwnig 1af''', o 1896 i 1911, yn un o berchnogion pyllau glo Cymru.
== Bywyd cynnar ==
Ganed Lewis ym 1837 ym [[Merthyr Tudful]], [[Sir Forgannwg]], yn ail fab i Thomas William Lewis, peiriannydd o Plymouth, a'i wraig Mary Anne. Addysgwyd ef mewn ysgol leol dan ofal [[Taliesin Williams]] hyd at dair ar ddeg oed pan gafodd ei wneud yn brentis i'w dad fel peiriannydd.
Yn 1855 penodwyd Lewis yn gynorthwy-ydd i WS Clark, prif beiriannydd mwyngloddio [[John Crichton Stuart, 3ydd ardalydd Bute|John Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute]] (1847-1890). {{Sfn|Williams|2004}} Treuliodd ddeng mlynedd yn y swydd cyn cael ei godi'n glerc y cwmni ym 1864. Rhoddwyd tenantiaeth Mardy House i Lewis fel rhan o'i swydd, a ddaeth ei gartref hir dymor yn [[Aberdâr]] . {{Sfn|Williams|2004}} Yr un flwyddyn priododd Anne Rees, merch William Rees, ac wyres [[Lucy Thomas]], 'mam y fasnach glo ager Cymreig'. {{Sfn|Williams|2004}} Bu i Lewis ac Anne ddau fab a chwe merch. {{Sfn|Williams|2004}}
Bu'n gweithio i ddechrau i byllau glo [[Ardalydd Bute|Bute]] yn ne Cymru, ond rhwng 1870 a 1880 prynodd ei byllau ei hun yn y [[Y Rhondda|Rhondda]], a ddaeth yn adnabyddus fel Lewis Merthyr Consolidated Collieries Limited. Ef hefyd oedd sylfaenydd Cymdeithas Glo Sir Fynwy a De Cymru fel ymateb y perchenogion i gryfder cynyddol yr undebau llafur.
== Bywyd cyhoeddus ==
Dechreuodd Lewis ei yrfa mewn bywyd cyhoeddus ym 1866, pan etholwyd ef i Fwrdd Iechyd Lleol Aberdâr .
Ym 1889 safodd yn ymgeisydd i gael ei ethol i Gyngor Sir Morgannwg ar gyfer ward Hirwaun. Cafodd y gystadleuaeth ei nodi gan gyhuddiadau (a wnaed yn wreiddiol adeg etholiad Cyngor Morgannwg, 1880) bod Lewis, fel perchennog glo amlwg ac asiant tir, wedi gwrthod ceisiadau gan anghydffurfwyr am dir i adeiladu capeli. Gwrthododd yr honiadau hyn yn gyhoeddus, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Ebeneser, Trecynon .
== Gyrfa diweddarach ==
Cafodd Lewis ei greu yn Farwnig Nantgwyne, ym 1896 <ref>[https://www.thegazette.co.uk/London/issue/26713/page/969 London Gazette; rhif:26713; dyddiad: 18 Chwefror 1896}}</ref> ac ym 1911 fe'i dyrchafwyd i [[Tŷ'r Arglwyddi|Dŷ'r Arglwyddi]] fel y B'''arwn Merthyr''', o [[Senghennydd (pentref)|Senghennydd]] yn Sir Forgannwg.
Bu farw'r Fonesig Lewis yng Nghastell Hean, [[Saundersfoot]] ar 2 Hydref 1902.
Codwyd cerflun gan Thomas Brock ym Mharc Aberdâr er anrhydedd iddo ac fe'i dadorchuddiwyd ym 1913.
== Trychineb Glofa Senghennydd ==
Un o byllau Lewis oedd Glofa Senghennydd. Yn dilyn methiant i weithredu cynllun diogelwch yn gynnar ym 1913, lladdodd ffrwydrad yn y pwll ar 14 Hydref y flwyddyn honno 439 o lowyr ac un achubwr. Dyma yw'r ddamwain mwyngloddio waethaf yn y Deyrnas Unedig o hyd. Yn dilyn hynny cafodd yr Arglwydd Merthyr, ynghyd â rheolwr pwll glo, ddirwyon o gyfanswm o £24.
== Cyfeiriadau ==
|