William Prytherch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen Wicidata using AWB |
|||
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
[[Gweinidog yr Efengyl|Gweinidog]] o [[Gymru]] oedd '''William Prytherch''' ([[25 Ebrill]] [[1804]] - [[20 Tachwedd]] [[1888]]).
==Cefndir==
Cafodd Prytherch ei eni yn Nhŷ'n yr Heol, [[Cynwyl Gaeo]] yn fab i Thomas William Prytherch, dilledydd. Dydy cofnod bedydd Prytherch na'i hunangofiant ddim yn crybwyll enw ei mam. Mae'r hunangofiant yn nodi ei bod yn ferch i William Jones oruchwyliwr gwaith plwm [[Llanfair Clydogau]], a'i bod hi, cyn priodi, wedi bod yn gogyddes yn nhŷ John Johnes, [[Dolaucothi]]. Pan oedd Prytherch tua blwydd oed bu farw ei dad o'r [[diciâu]], dychwelodd ei fam i'w gwaith fel cogyddes ystâd Dolaucothi a chafodd y baban ei roddi allan i'w fagu gan gefnder iddo, Evan Jones, ffarmwr yng Nghaeo. Talodd Johnes i'r bachgen cael addysg mewn ysgol yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] hyd ei fod yn 14 mlwydd oed.
==Gyrfa==
Yn bedwar ar ddeg oed prentisiwyd Prydderch i Daniel Rees, un o gyn gweithwyr ei ddiweddar dad, i ddysgu bod yn deiliwr.
Pan oedd Pritchard tua 16 mlwydd oed cafodd ei fam prydles ar Felin Dolaucothi, gyda'r bwriad o greu cartref a swydd iddi hi a'i fab yno.
Ychydig ar ôl symud i'r felin aeth Prytherch i ffair Awst Caeo ac aeth i [[Meddwdod|feddwi'n]] dwll gyda nifer o [[Glasoed|laslanciau]] eraill yn nhafarn y pentref. Wedi ffieiddio efo'i hunan am y fath ymddygiad dechreuodd myfyrio am ei gyflwr ysbrydol ac i weddïo. O'r ddydd hwnnw penderfynodd cysegru weddill ei fywyd i achos [[Crist]]. Y Sul canlynol aeth i wasanaeth yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghaeo lle fu'r Parch Watcin Edward, Defynnog yn pregethu a mynychodd y seiat wedi'r oedfa. Wedi derbyn cyngor ysbrydol gan Watcin Edward gafodd tröedigaeth a derbyniwyd ef yn aelod cyflawn o'r seiat. Dechreuodd cynnal gwasanaethau crefyddol yn y felin.
Tua 1825 gwnaeth Prytherch cais i gapel Caio i gael dechrau pregethu. Wedi ei holi gan y Parch [[David Charles]], oedd yn ei adnabod ers ei ddyddiau ysgol yng Nghaerfyrddin cafodd caniatâd i fod yn bregethwr ar brawf. Ar ôl tri mis ar brawf derbyniwyd ef yn aelod o gyfarfod misol [[Sir Gaerfyrddin]], a oedd yn cael ei gynnal ym [[Myddfai]] fel, pregethwr lawn. Ym mhen tri mis arall derbyniwyd ef a'i gyfaill mawr, John Jones, Llangyndeyrn, yn aelodau o Gymdeithasfa Sir Gaerfyrddin fel gweinidogion yr efengyl. Roedd bod yn aelod o'r Gymdeithasfa yn caniatáu iddynt deithio i bregethu y tu allan i'w sir frodorol. Pregethodd y tu allan i Sir Gaerfyrddin y Sul canlynol yng Nghwmgïedd, Sir Faesyfed. Aeth ar ei daith pregethu cyntaf trwy Sir Aberteifi yng Nghwmni'r Parch Thomas Harries, Blaenafon.
O 1832 ymlaen bu Prytherch yn ffermio yn ogystal â phregethu a bu'n cadw ffermydd mewn nifer o lefydd yng Nghaerfyrddin gan gynnwys [[Caeo (cwmwd)|Caeo]], [[Cil-y-cwm|Cil-yCwm]], [[Llanegwad]], [[Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin|Llanfynydd,]] [[Cwm-ann]] a [[Nantgaredig]].
Cafodd Prytherch ei ordeinio'n Weinidog ym 1834. Ni fu yn weinidog ar eglwys unigol erioed, ond fu'n mynd ar deithiau pregethu trwy bob parth o Gymru ac yn ymweld â'r capeli Cymraeg yn nhrefi Lloegr hefyd. Byddai'n aml yn gyd deithio gyda'i hen gyfaill John Jones, Llangyndeyrn.
==Teulu==
Bu Prytherch yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Joyce Evans, merch Thomas Evans o’r Pumsaint Inn, [[Llanpumsaint
==Marwolaeth==
Ym 1878 Symudodd Prytherch i fyw i Lan-y-fferi lle fu farw yn 84 mlwydd oed.
Cyhoeddwyd cofiant iddo gan y Parch T E Evans Cwmafon ''[[Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin]]'' ([[Gwasg Gee]] [[Dinbych]], [[1894]]); ac un arall gan P. H. Griffiths, ''Y Parchedig W. E. Prytherch (dyn un peth)'' cofiant, 1937.
<gallery mode=packed heights=200px>
|