Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Galatiaid"

Ychwanegwyd 332 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
BNo edit summary
Ymsefydlasant yng ngorllewin canolbarth [[Asia Leiaf|Anatolia]] ar ôl cael eu gwahodd yno gan y brenin [[Nicomedes I]] o deyrnas [[Bithynia]] i'w gynorthwyo yn erbyn y [[Persia]]id. Ymladdasant sawl gwaith yn erbyn brenhinoedd [[Pergamon]]; dethlir buddugoliaethau'r Pergamoniaid drsotynt mewn cyfres o gerfluniau enwog sydd wedi goroesi fel copïau Rhufeinig. Yn ddiweddarach daeth eu tiriogaeth yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], ond dim ond ar ôl brwydr hir i gadw eu hannibyniaeth a barodd o [[189 CC]] pan gollasant frwydr bwysig, hyd at [[25 CC]] pan greodd yr [[Ymerodron Rhufeinig|ymerodr]] [[Augustus]] dalaith [[Galatia]].
 
Ymddengys fod y [[Llythyr Paul at y Galatiaid|llythyr enwog at y Galatiaid]] gan [[Paul|Sant Paul]] yn annerch cymunedau [[Cristnogaeth|Cristnogol]] ifainc mewn rhannau gwledig o Galatia. Ymddengys fod yr iaith Alateg wedi parhau yn y parthau hynny hyd at y [[3edd ganrif|3edd]] neu'r [[4edd ganrif]] cyn iddi gael ei disodli gan yr iaith [[Groeg|Roeg]] ac ar ôl hynny [[Tyrceg]].
 
[[Categori:Y Galatiaid| ]]
[[Categori:Asia Leiaf]]
 
[[ca:Galàcia]]
[[da:Galatien]]
[[de:Galatien]]
[[en:Galatia]]
[[es:Galacia]]
[[fa:گالاتیا]]
[[fr:Galatie]]
[[id:Galatia]]
[[it:Galazia]]
[[hu:Galatia]]
[[nl:Galatië]]
[[no:Galatia]]
[[pl:Galacja]]
[[pt:Galácia]]
[[ro:Galatia]]
[[ru:Галатия]]
[[sk:Galatia]]
[[sr:Галатија]]
[[fi:Galatia]]
[[sv:Galatien]]
[[zh:加拉太]]