Cudd-wybodaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 2:
[[Gwybodaeth]] sydd yn berthnasol i [[gwladwriaeth|wladwriaeth]] wrth ffurfio a gweithredu polisi ac wrth amddiffyn yn erbyn bygythiadau i'w [[diogelwch cenedlaethol]] yw '''cudd-wybodaeth'''.<ref>Shulsky a Schmitt (2002), t. 1.</ref> Fe'i hystyrid yn elfen hanfodol o [[strategaeth filwrol]].<ref>George (2010), t. 163.</ref>
 
== Elfennau cudd-wybodaeth ==
=== Casglu ===
{{eginyn-adran}}
=== Dadansoddi ===
{{eginyn-adran}}
=== Gweithredu cudd ===
Y gallu i roi pwysau ar lywodraeth dramor heb i'r llywodraeth honno wybod ffynhonnell y pwysau yw gweithredu cudd.<ref name=D281/><ref>Clark (2007), tt. 92&ndash;3.</ref> Mae gweithredu cudd yn cynnwys pedair is-ddisgyblaeth: [[propaganda]], [[gwleidyddiaeth|gweithredu gwleidyddol]], [[parafilwriaeth|gweithredu parafilwrol]], a [[rhyfela gwybodaeth]].<ref name=D281>Daugherty (2009), t. 281.</ref> Mae gweithredu cudd yn anodd ei ddiffinio o fewn maes cudd-wybodaeth, a chwestiynir os yw'n rhan o ddisgyblaeth cudd-wybodaeth o gwbl gan ei fod yn ymwneud â gweithredu [[polisi tramor]] yn hytrach na chasglu a dadansoddi gwybodaeth y seilir polisi tramor arni.<ref>Shulsky a Schmitt (2002), t. 75.</ref> Er hyn, cysylltir gweithredu cudd â chudd-wybodaeth gan fod asiantaethau cudd-wybodaeth gan amlaf yn ei weithredu.<ref>Clark (2007), t. 1.</ref>
 
=== Gwrth-ysbïwriaeth ===
Mae gwrth-ysbïwriaeth yn ymwneud ag amddiffyn medrau cudd-wybodaeth y wladwriaeth rhag gweithgareddau cudd-wybodaeth y gelyn.<ref>Shulsky (2002).</ref>
{{eginyn-adran}}
 
== Mathau ==
Mae mathau o gudd-wybodaeth yn cynnwys:<ref>George (2010), t. 165.</ref>
;Cudd-wybodaeth ddelweddau (IMINT)
Gwybodaeth a ddaw o systemau [[delweddu]], yn bennaf [[lloeren]]ni, gan ddefnyddio technoleg [[ffotograffiaeth]], [[radar]], a [[synhwyrydd is-goch|synwyryddion is-goch]].
;Cudd-wybodaeth ddynol (HUMINT)
Gwybodaeth a ddaw o bobl, gan gynnwys [[ysbïwr|ysbiwyr]], [[diplomydd]]ion, [[swyddog milwrol|swyddogion milwrol]], [[ffoadur]]iaid, a [[gwrthgiliwr|gwrthgilwyr]].
;Cudd-wybodaeth ffynhonnell-agored (OSINT neu OPINT)
Gwybodaeth a ddaw o'r [[parth cyhoeddus]], megis gwefannau, papurau newydd, teledu, radio, a dogfennau llywodraethol.
;Cudd-wybodaeth signalau (SIGINT)
Gwybodaeth a ddaw o [[signal (electroneg)|signalau]] rhwng pobl, sef cudd-wybodaeth gyfathrebu (COMINT), neu signalau electronig fel arall (ELINT).
 
== Astudiaeth ==
{{prif|Astudiaethau cudd-wybodaeth}}
Gelwir y [[Disgyblaeth academaidd|maes academaidd]] [[Maes rhyngddisgyblaethol|rhyngddisgyblaethol]] sydd yn ymwneud â chudd-wybodaeth yn astudiaethau cudd-wybodaeth. Mae'n is-faes o [[cysylltiadau rhyngwladol|gysylltiadau rhyngwladol]].
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau|2}}
 
== Ffynonellau ==
* Clark, J. R. ''Intelligence and National Security'' (Westport CT, Praeger Security International, 2007).
* Daugherty, W. J. 'The role of covert action', yn ''Handbook of Intelligence Studies'', golygwyd gan Loch K. Johnson (Abingdon, Routledge, 2009), tt. 279&ndash;88.