Marcsiaeth–Leniniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B nodyn llywio Marcsiaeth
Tagiau: Golygiad cod 2017
B s
Llinell 5:
Mae'r enw yn ailddiffinio [[Marcsiaeth]] yn nhermau [[Leniniaeth]], yn ôl dehongliad [[Joseff Stalin]] o syniadaeth ei ragflaenydd. Dyrchafwyd y diweddar Lenin yn destun cwlt, a manteisiodd Stalin ar ei enw er mwyn cyfiawnhâu ei bolisïau ac i atgyfnerthu ei awdurdod gwleidyddol ac ideolegol. Mewn gwirionedd, roedd Staliniaeth yn groes i Leniniaeth mewn sawl ffordd.
 
Hyd yn oed wedi marwolaeth StaliStalin a chwymp ei gwlt personol, defnyddiwyd y term Marcsiaeth–Leniniaeth gan yr awdurdodau Sofietaidd i gyfreithloni polisi, drwy awgrymu perthynas uniongyrchol rhwng yr ideoleg wladwriaethol a syniadaeth wreiddiol [[Karl Marx]], a amlygwyd gan [[Chwyldro Hydref|chwyldro Lenin]]. Defnyddiwyd i gondemnio ffurfiau ar Farcsiaeth yn heresïau ac i ladd ar lywodraethau comiwnyddol eraill oedd yn cynnig cyfundrefnau gwahanoli'r model Sofietaidd. Yn yr hollt rhwng yr Undeb Sofietaidd a [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]], cyhuddwyd Beijing gan y Cremlin o wyro oddi ar wirionedd ideolegol Marcsiaeth–Leniniaeth, tra'r oedd y Tsieineaid yn mynnu bod [[Maoaeth]] yn olynydd cyfreithlon i syniadaeth Marx a Lenin.
 
[[Categori:Gwleidyddiaeth yr Undeb Sofietaidd]]