Thoriwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: mrj:Торий
parhau
Llinell 1:
{{Tabl elfen|enw=Thoriwm|symbol=Th|rhif=90|dwysedd=9.32 g/cm³}}
[[Elfen gemegol]] gwan o ran ymbelydredd a ganfyddir mewn digonedd, ac yn naturiol ynled-led y [[ddaear]] ydy '''Thoriwm''' sydd â'r symbol <code>'''Th'''</code> a'r rhif atomig 90 yn y [[tabl cyfnodol]]. Thorium-232 ydy'r enw arno mewn ffurf naturiol.
 
Gellir trin a thrafod y metal meddal hwn yn hawdd; ei liw ydy arian-gwyn.
Llinell 8:
Darganfuwyd mwynau du ar Ynys Løvøy gan M. T. Esmark a rhoddodd y sampl i'r Athro Jens Esmark, [[mwynau|mwynwr]] galluog na wyddai beth goblyn oedd y metal. Danfonodd ef i'r [[cemegydd]] Jöns Jakob Berzelius yn [[Sweden]] i'w archwilio yn 1828. Enwodd Berzelius y metel ar ôl y duw [[Thor]], duw'r daran. Yn 1885 cafwyd defnydd i'r metal hwn, sef o fewn 'mantell' lampau [[nwy]].
 
== Ynni niwclear ==
Rhwng 1964 a 1969 defnyddiwyd Thoriwm-232 i greu'r tanwydd niwclear [[iwraniwm|iwraniwm233]] er enghraifft yn yr arbrawf a elwid yn MSR (''molten-salt reactor'') yn [[Unol Daleithiau America]]. Mae'r [[adweithydd]]ion cynnar hyn wedi eu cau i lawr, ond mae [[Rwsia]], [[India]] a [[Tsieina]] yn cynllunio rhai newydd oherwydd fod y cyfansoddyn hwn yn gymharol saff.
 
Dyma rai o'r rhinweddau dros ei ddefnyddio i greu ynni niwclear:
* Mae defnyddio'r [[gwastraff niwclear]] i wneud [[arfau niwclear]] bron yn amhosib.
* Mae maint y gwastaff yn llai: rhwng 10 a 10,000 gwaith yn llai na gydag iwraniwm.
* Caiff thoriwm ei fwyngloddio o'r daear fel eisotop sy'n 100% yn bur, yn ddefnyddiol nad oes rhaid ei drin cyn ei ddefnyddio.
 
Ceir arbrofion cyffelyb hefyd yn [[Labordy Daresbury]] yn Lloegr er enghraifft: ''Electron Machine with Many Applications (EMMA)''. Mae'r arbrawf eisioes wedi dwyn ffrwyth a gwelir yn Ysbyty Clatterbridge ger [[Lerpwl]] beiriant i helpu therapi [[cancr]].
 
{{eginyn cemeg}}