Parthia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Rhwng [[250 CC]] a [[238 CC]], dan eu brenin [[Arsaces]], llwyddodd y Parthiaid i gipio tiriogaeth Persia oddi wrth yr ymerodron [[Seleucid]]. Yn [[141 CC]], pan oedd [[Mithridates I o Parthia|Mithridates I]] yn frenin, ychwanegasant [[Mesopotamia|Fesopotamia]] at eu hymerodraeth. Cymerodd y brenin y teitl "Sháh an Sháh" (Brenin y Brenhinoedd). Dan [[Mithridates II o Parthia|Mithridates II]] (124/123 - 88/87 CC) agorwyd [[Llwybr y Sidan]] yn [[115 CC]] a derbyniwyd llysgenhadaeth gan ymerawdwr [[Tsieina]], [[Wu Ti]].
 
Yn fuan wedyn daeth y Parthiaid i gysylltiad a'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Bu llawer o ymladd rhwng yr ymerodraethau hyn dros y blynyddoedd. Ym [[Brwydr Carrhae|mrwydr Carrhae]] yn [[53 CC]] cafodd y Parthiaid fuddugoliaeth ysgubol, gan ladd 20,000 o filwyr Rhufeinig a chymeryd 10,000 yn gaethion. Yn [[20 CC]], dan [[Augustus]], cytunwyd i dderbyn [[Afon Ewffrates]] fel ffin. Bu ymladd eto yn ystod teyrnasiad [[Nero]] ac ennillodd yr ymerawdwr [[Trajan]] fuddugoliaethau pwysig dros y Parthiaid a chymeryd y cyfenw "Parthicus" i'w nodi. Bu heddwch yn ystod teyrnasiad [[Hadrian]] ond yna bu ymladd eto dan [[Marcus Aurelius]] pan adenillodd y Parthiaid y tiroedd a gollasant i Trajan. Prif gryfder y Parthiaid mewn rhyfel oedd eu marchogion, oedd yn gallu saethu â'r bwa tra'n carlamu.
 
Yn ystod y ganrif gyntaf a'r ail OC, gwanychwyd ymerodraeth y Parthiaid gan ryfeloedd cartref. Yn [[200]] cododd y [[Persiaid]] mewn gwrthryfel dan [[Ardashir I]], ac yn [[224]] lladdwyd [[Artaban V o Parthia|Artaban V]], brenin olaf y Parthiaid. Coronwyd Ardashir yn frenin, a sefydlwyd tŷ brenhinol y [[Sassanid]].