Y Croesgadau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 2:
 
Roedd '''Y Croesgadau''' yn gyfres o ymgyrchoedd milwrol a ymladdwyd gan [[Cristnogaeth|Gristnogion]] o gorllewin [[Ewrop]] draw yn y [[Y Dwyrain Canol|Dwyrain Canol]] yn yr [[Yr Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]], sef rhwng diwedd yr unfed ganrif ar ddeg a diwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Eu pwrpas oedd adfeddiannu y Tiroedd Sanctaidd, gan gynnwys lleoedd cysegredig [[Palesteina]] oddi ar y [[Islam|Mwslimiaid]]. Roedd y tiroedd hyn yn bwysig i Gristnogion oherwydd dyma ble roedd Cristnogaeth wedi cychwyn ac ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg cyhoeddodd y [[Pab]] bod angen achub y Tir Sanctaidd rhag rheolaeth gan Fwslemiaid. At ei gilydd dyma oedd cychwyn cyfnod pan ymladdwyd wyth croesgad bwysig. Bu sawl ymgyrch gan Gristnogion i recriwtio bobl i ymladd yn y Croesgadau a dyma oedd pwrpas taith [[Gerallt Gymro]] drwy [[Cymru|Gymru]] yn 1188. Roedd [[Jeriwsalem]] yn fan ymladd allweddol rhwng Cristnogion a Mwslimiaid ac yn bwysig i’r ddwy [[Crefydd|grefydd]]. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth Jeriwsalem, a mannau cysegredig eraill ym Mhalesteina, yn gyrchfannau pwysig i bererinion Cristnogol gan mai rhain oedd y tiroedd ble roedd [[Iesu|Iesu Grist]] wedi byw. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith fod hon yn broses barhaol gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes.
 
<br />
 
== Cefndir ==
Llinell 16 ⟶ 14:
 
==Hanes y Croesgadau==
[[File:Peter the Hermit.jpg|thumb|[[Pedr y Meudwy]] yn arwain Croesgad y Bobl]]
===Y Groesgad Gyntaf===
:''Prif erthygl - [[Y Groesgad Gyntaf]]''
 
Ymladdwyd y Groesgad Gyntaf o [[1095]] i [[1099]]. Fe'i lawnsiwyd dan oruchwyliaeth a nawdd y [[Pabaeth|Babaeth]]. Arweiniodd [[Pedr y Meudwy]] fyddin yn erbyn lluoedd [[Kilij Arslan]], [[swltan]] [[Nisé]], ond fe'i trechwyd ganddo. Y flwyddyn ganlynol cipiodd y Croesgadwyr Nisé a threchwyd Kilij ym mrwydr Dorylé. Roedd [[1098]] yn flwyddyn gofiadwy i'r goresgynwyr; cipiwyd [[Edessa]] ac [[Antakya|Antioch]] a chreuwyd taleithiau Croesgadwrol ynddynt a chafodd byddin Mwslemaidd dan arweinyddiaeth [[Karbouka]] o ddinas [[Mosul]] ei threchu. Yn [[1099]] cipiwyd [[Caersalem]] a [[Tripoli (Libanus)|Thripoli]]. Yn y Ddinas Sanctaidd ei hun coronwyd y fuddugoliaeth â chyflafan ddychrynllydd ar y trigolion, yn [[Iddewon]], [[Yr Eglwys Uniongred|Cristnogion Uniongred]] a [[Islam|Mwslemiaid]] yn ddi-wahân.
 
===Yr Ail Groesgad===
:''Prif erthygl - [[Yr Ail Groesgad]]''
 
Cwymp talaith [[Edessa]] i'r [[Saraseniaid]] yn [[1144]] oedd yr ysbardun i'r Ail Groesgad, aflwyddianus.
 
===Y Drydedd Groesgad===
Llinell 41 ⟶ 39:
 
Methiannau trychinebus fu pob un o'r tair croesgad olaf yn ystod y [[13g]]. Erbyn [[1291]] roedd caer hollbwysig [[Acre, Israel|Acre]] ym Mhalesteina, amddiffynfa olaf y Croesgadwyr yn y [[Lefant]], wedi syrthio ac roedd y Croesgadau ar ben.
 
==Arwyddocád y Croesgadau==
Agorodd y Croesgadau ffenestr newydd i'r Gorllewin ar ddysg y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]]. Daeth llawysgrifau o weithiau gan [[Aristotlys]] ac eraill i orllewin Ewrop ac roedd hyn yn sail i'r adfywiad dysg a welid yn ystod y [[Dadeni]] Dysg. Cyfoethogwyd Ewrop gan [[Mathemateg|fathemateg]] y Mwslimiaid, yn arbennig ym maes [[algebra]] (a oedd yn ddieithr i Ewropeiaid cyn hynny). Dylanwadwyd ar Ewrop hefyd gan syniadau’r Arabiaid am feddygaeth, gwyddoniaeth athroniaeth a chelfyddyd. Daeth croesgadwyr â pherlysiau gwerthfawr nôl gyda nhw o’r Dwyrain Canol hefyd, sef nytmeg a synamon, siwgr a chotwm.
Llinell 50 ⟶ 47:
==Llyfryddiaeth ddethol==
*Amin Maalouf, ''Les croisades vues par les Arabes'' (Paris, 1985; argraffiad newydd, Editions J'ai Lu, Paris, 2003). Golwg ar y Croesgadau o safbwynt yr [[Arabiaid]]).
 
{{eginyn hanes}}
{{eginyn Cristnogaeth}}
 
[[Categori:Y Croesgadau| ]]