Castell Harlech: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu |
|||
Llinell 2:
| ynganiad = {{wikidata|property|P443}}
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}
Castell canoloesol a restrwyd ar Radd I a leolir yn [[Harlech]], [[Gwynedd]] yw '''Castell Harlech.''' Fe’i hadeiladwyd gan [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] yn ystod ei oresgyniad o Gymru rhwng [[1282]] a [[1289]] ar gost gymharol gymedrol o £8,190.<ref>{{Cite web|title=Castell Harlech {{!}} Cadw|url=https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-harlech?lang=cy|website=cadw.llyw.cymru|access-date=2020-04-28}}</ref> Mae'n un o’r pedwar castell consentrig, sef [[Castell Caernarfon|Caernarfon]], [[Castell Biwmares|Biwmares]] a [[Castell Conwy|Chonwy]] a adeiladwyd wedi lladd Llywelyn ap Gruffydd yn 1282. Cryfder cestyll consentrig oedd y ddau fur, sef y mur allanol a mewnol, a chynllun a fabwysiadwyd yn [[Ewrop]] wedi iddo cael ei weld yn y Dwyrain Canol adeg [[Y Croesgadau]].
Mae'r castell heddiw yn nghofal [[Cadw]]. Fe'i gosodwyd ar restr [[Safle Treftadaeth y Byd|Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO]] yn [[1986]], fel rhan o'r safle [[Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd]].<ref>{{cite web|title=Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd|url=http://whc.unesco.org/en/list/374|website=UNESCO World Heritage Centre|publisher=UNESCO|accessdate=31 Mai 2019}}</ref> ▼
Chwaraeodd y castell ran bwysig yn hanes Cymru yn y canrifoedd canlynol. Yn 1294 gosododd gwrthryfelwyr [[Madog ap Llywelyn]] Gastell Harlech dan warchae. Fodd bynnag, derbyniodd y Saeson gyflenwadau o Iwerddon diolch i fynediad y Cestyll i'r môr a diddymwyd y gwrthryfel. Yn ystod Gwrthryfel [[Owain Glyn Dŵr|Owain Glyndŵr]] roedd y castell wedi syrthio i ddwylo Glyndŵr a daeth yn gartref ac yn bencadlys milwrol iddo am bedair blynedd. Yn 1408 gosododd lluoedd Seisnig, o dan awdurdod y gŵr a gafodd ei goroni yn [[Harri V, brenin Lloegr|Harri V]] yn ddiweddarach, warchae ar y castell. Syrthiodd Harlech yn y pen draw ym mis Chwefror 1409. Roedd y castell hefyd yn ased milwrol pwysig yn ystod [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]] a'r [[Rhyfel Cartref Lloegr|Rhyfel Cartref]].
▲Mae'r castell heddiw yn nghofal [[Cadw]]. Fe'i gosodwyd ar restr [[Safle Treftadaeth y Byd|Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO]] yn [[1986]], fel rhan o'r safle [[Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd]].<ref>{{cite web|title=Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd|url=http://whc.unesco.org/en/list/374|website=UNESCO World Heritage Centre|publisher=UNESCO|accessdate=31 Mai 2019}}</ref>
== Hanes ==
[[Delwedd:Harlech03LB.jpg|bawd|dim|Cerflun ''Y Ddau Frenin'' gan Ivor Roberts-Jones o flaen y castell. |156x156px]]Ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]] Castell Harlech yw castell [[Bendigeidfran]] a'i chwaer [[Branwen ferch Llŷr]], y [[Duwies|dduwies]] y ceir yr hanes amdani yn Ail Gainc y Mabinogi, ond nid oes tystiolaeth archeolegol bod amddiffynfa Gymreig wedi'i hadeiladu ar y safle cyn y castell presennol.<ref>{{Cite book|edition=4th ed|title=Harlech castle|url=https://www.worldcat.org/oclc/573129003|publisher=CADW|date=2007|location=Cardiff|isbn=978-1-85760-257-9|oclc=573129003|others=Cadw (Organization : Great Britain)|last=Taylor, A. J. (Arnold Joseph), 1911-2002.}}</ref>
Roedd brenhinoedd [[Lloegr]] a [[Teyrnas Gwynedd|thywysogion Cymru]] wedi ymgiprys am reolaeth dros Ogledd Cymru ers y 1070au. Ailgychwynnodd y gwrthdaro yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, gan arwain Edward I i ymyrryd yng Ngogledd Cymru yn 1282 am yr ail waith yn ystod ei deyrnasiad. Aeth Edward I ati i adeiladu ac adnewyddu cyfres o gestyll cadarn fel cadarnleoedd grym a diogelwch. Roedd castell Harlech yn un o saith castell a adeiladwyd ar draws Gogledd Cymru fel rhan o’i ‘gylch haearn’ o gestyll. Roedd rhain yn ganolfannau ar gyfer ei fyddinoedd lle gallai lansio ymosodiadau yn erbyn y [[Cymry]].
=== Gwarchaeau ===
[[Delwedd:SDJ Harlech Castle Gatehouse.jpg|bawd|Y brif fynedfa i Gastell Harlech]]Yn 1294, dechreuodd Madog ap Llywelyn [[Gwrthryfel Cymreig 1294–95|wrthryfel]] yn erbyn y Saeson a ymledodd yn gyflym ar draws Cymru. Gosododd y gwrthryfelwyr Gastell Harlech dan warchae y gaeaf hwnnw. O [[Iwerddon]] anfonwyd cyflenwadau ffres dros y môr, a chawsant eu cludo drwy lifddorau Harlech gan ddod â’r gwrthryfel i ben.
Yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr, erbyn 1403, dim ond llond llaw o gestyll, gan gynnwys Harlech, a lwyddodd i ddal eu tir yn erbyn y gwrthryfelwyr. Doedd dim digon o offer na staff yn y castell i wrthsefyll gwarchae ac mai’r cofnodion yn dangos mai dim ond tair tarian, wyth helmed, chwe gwaywffon, deg pâr o fenig, a phedwar gwn oedd gan y garsiwn. Ar ddiwedd 1404, roedd y castell wedi syrthio i ddwylo Glyndŵr a daeth yn gartref ac yn bencadlys milwrol iddo am bedair blynedd. Yn 1408 gosododd lluoedd Seisnig, o dan awdurdod y gŵr a gafodd ei goroni yn Harri V yn ddiweddarach, a’i gadlywydd, [[Edmund Mortimer]], warchae ar y castell. Gwnaeth magnelau a chanonau ddifrod mawr i rannau deheuol a dwyreiniol y waliau allanol. Ar ôl methu â chipio’r castell, cafodd John Talbot ei adael gan Harri i fod yn gyfrifol am y gwarchae ac aeth Harri yn ei flaen i [[Castell Aberystwyth|Gastell Aberystwyth]]. Ar ôl i Mortimer a llawer o’i ddynion farw o flinder, syrthiodd Harlech yn y pen draw ym mis Chwefror 1409.
Yn y bymthegfed ganrif, roedd Harlech yn gysylltiedig gyda chyfres o ryfeloedd cartref, a elwir yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, rhwng carfannau gelyniaethus teulu [[Lancastriaid|Lancaster]] a theulu [[Iorciaid|Iorc]]. Yn 1460, yn dilyn brwydr Northampton, fe wnaeth y Frenhines [[Marged o Anjou]] a’r baban, y Tywysog Edward, ffoi i’r castell. Rhwng 1461 ac 1468 roedd yn nwylo cefnogwyr teulu Lancaster, o dan awdurdod Dafydd ap Ieuan. Oherwydd ei amddiffynfeydd naturiol a’r llwybr gyflenwi ar y môr, daliodd castell Harlech ei dir unwaith eto ac, wrth i gestyll eraill syrthio, hwn oedd yr olaf o’r prif gadarnleoedd a oedd yn dal i fod o dan reolaeth teulu Lancaster. Mae'r gân ''[[Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech]]'' yn cyfeirio at gwarchae'r adeg hwnnw.
[[Delwedd:SDJ Harlech Castle Gatehouse.jpg|bawd|Y brif fynedfa i Gastell Harlech]]▼
Daeth y castell yn ganolfan ar gyfer eu hymgyrchoedd ar draws y rhanbarth. Ymosododd Syr Richard Tunstall o Gastell Harlech yn 1466 a glaniodd [[Siasbar Tudur|Siaspar Tudur]], ewythr [[Harri VII, brenin Lloegr|Harri Tudur]], yno gyda milwyr ychwanegol o [[Ffrainc]] yn 1468. Yn sgil dyfodiad Tudur gorchmynnodd Edward IV [[William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)|William Herbert]] i drefnu byddin, o bosibl hyd at 10,000 o ddynion, er mwyn cipio’r castell unwaith ac am byth. Ar ôl mis, ildiodd y garsiw ar 14 Awst.
== Oriel ==▼
=== Y Rhyfel Cartref ===
Ar ôl dechrau Rhyfel Cartref Lloegr yn 1642, daliwyd y castell gan luoedd a oedd yn deyrngar i [[Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban|Siarl I]]. Roedd y castell heb gael ei drwsio yn dilyn gwarchae 1468 ac roedd wedi mynd â’i ben iddo, ac eithrio’r porthdy, a oedd yn cael ei ddefnyddio fel y llys lleol. Yn 1644 penododd [[Rupert, tywysog y Rhein]], y Cyrnol William Owen, yn gwnstabl y castell, a rhoddwyd y dasg o drwsio’r gaer i’r Cyrnol Owen. Bu gwarchae hir rhwng mis Mehefin 1646 a mis Mawrth 1647 pan ildiodd y garsiwn o 44 dyn i’r Cadfridog [[Thomas Mytton]]. Y castell oedd y gaer frenhinol olaf ar y tir i ildio gan nodi diwedd cam cyntaf y rhyfel.
Doedd dim angen y castell bellach i sicrhau diogelwch Gogledd Cymru ac, i atal y Brenhinwyr rhag ei ddefnyddio eto, gorchmynnodd y Seneddwyr y dylid ei ddinistrio. Ond dim ond yn rhannol y dilynwyd y gorchmynion hyn. Dinistriwyd grisiau’r porthdy a difrodwyd y castell i’r fath raddau fel na ellid ei ddefnyddio ond ni chafodd ei ddinistrio’n llwyr.
Cafodd cerrig y castell eu defnyddio i godi tai yn y dref.<ref>{{Cite web|url=http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-15/cym/Datblygu-rhyfela.pdf|title=Datblygiad Rhyfela, tua 1250 hyd heddiw|date=|access-date=28 Ebrill 2020|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
== Dyluniad ==
[[Delwedd:Harlech.1610.jpg|bawd|Castell Harlech ym 1610 ar fap John Speed]]Meistr [[James o St George]] yn rhanbarth Safwy (Savoy) oedd yng ngofal y gwaith cynllunio ac adeiladu. Roedd y castell bron â’i gwblhau erbyn diwedd 1289 am tua £8,190, sef tua 10% o’r £80,000 a wariodd Edward ar adeiladu
cestyll yng Nghymru. Adeiladwyd y castell o garreg leol ac roedd o gynllun consentrig, gan gynnwys porthdy enfawr a oedd unwaith yn llety uchel ei statws i gwnstabl y castell ac ymwelwyr pwysig. Ar y pryd roedd y môr yn cyrraedd yn nes o lawer at Harlech ac roedd llifddor â grisiau hir yn arwain i lawr o’r castell at y lan gan olygu bod modd dod â chyflenwadau i’r castell o’r môr yn ystod gwarchae.
Yn wynebu’r môr, roedd murfylchau Harlech yn ymestyn o wyneb y graig serth. Byddai unrhyw ymosodwyr o’r tir yn gyntaf yn gorfod wynebu’r porthdy enfawr gyda dau dŵr. Mae’r môr, fel mynyddoedd Eryri, yn allweddol i leoliad Harlech. Mae waliau mewnol a thyrrau enfawr y gaer yn dal i sefyll i’w huchder llawn. Ar ôl Gwrthryfel Madog ap Llywelyn rhwng 1294–95, adeiladwyd amddiffynfeydd ychwanegol o amgylch y llwybr i lawr at y môr. Gwnaed mwy o waith rhwng 1323– 24, ar ôl rhyfel Despenser pan gafodd [[Edward II, brenin Lloegr|Edward II]] ei fygwth yn y rhanbarth gan ddau o arglwyddi’r gororau, Roger a Humphrey de Bohun. Gorchmynnodd ei siryf, [[Gruffudd Llwyd ap Rhys|Syr Gruffydd Llwyd]], i ymestyn yr amddiffynfeydd a oedd yn arwain at y porthdy a chodi tyrau ychwanegol.
<br />
▲[[Delwedd:
▲== Oriel Celf ==
<gallery>
Delwedd:Harlech Castle
Delwedd:Harlech Castle
Delwedd:Harlech Castle (4702512).jpg|Gan [[Hugh Hughes (arlunydd)|Hugh Hughes]], 1846
Delwedd:Harlech Castle
Delwedd:Harlech (gcf10260).jpg|Gan [[John Kelt Edwards]], 1912
</gallery>
Llinell 40 ⟶ 53:
== Gweler hefyd ==
*[[Ardudwy]]
*[[Rhestr cestyll Cymru]]
|