Castell Harlech: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 10:
Mae'r castell heddiw yn nghofal [[Cadw]]. Fe'i gosodwyd ar restr [[Safle Treftadaeth y Byd|Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO]] yn [[1986]], fel rhan o'r safle [[Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd]].<ref>{{cite web|title=Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd|url=http://whc.unesco.org/en/list/374|website=UNESCO World Heritage Centre|publisher=UNESCO|accessdate=31 Mai 2019}}</ref>
== Hanes ==
[[Delwedd:Harlech03LB.jpg|bawd|dim|Cerflun ''Y Ddau Frenin'' gan Ivor Roberts-Jones o flaen y castell. |156x156px]]Ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]] Castell Harlech yw castell [[Bendigeidfran]] a'i chwaer [[Branwen ferch Llŷr]], y [[Duwies|dduwies]] y ceir yr hanes amdani yn Ail Gainc y Mabinogi, ond nid oes tystiolaeth archeolegol bod amddiffynfa Gymreig wedi'i hadeiladu ar y safle cyn y castell presennol.<ref>{{Cite book|edition=4th ed|title=Harlech castle|url=https://www.worldcat.org/oclc/573129003|publisher=CADW|date=2007|location=Cardiff|isbn=978-1-85760-257-9|oclc=573129003|others=Cadw (Organization : Great Britain)|last=Taylor, A. J. (Arnold Joseph), 1911-2002.}}</ref>
 
Roedd brenhinoedd [[Lloegr]] a [[Teyrnas Gwynedd|thywysogion Cymru]] wedi ymgiprys am reolaeth dros Ogledd Cymru ers y 1070au. Ailgychwynnodd y gwrthdaro yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, gan arwain Edward I i ymyrryd yng Ngogledd Cymru yn 1282 am yr ail waith yn ystod ei deyrnasiad. Aeth Edward I ati i adeiladu ac adnewyddu cyfres o gestyll cadarn fel cadarnleoedd grym a diogelwch. Roedd castell Harlech yn un o saith castell a adeiladwyd ar draws Gogledd Cymru fel rhan o’i ‘gylch haearn’ o gestyll. Roedd rhain yn ganolfannau ar gyfer ei fyddinoedd lle gallai lansio ymosodiadau yn erbyn y [[Cymry]].
Llinell 26:
Ar ôl dechrau Rhyfel Cartref Lloegr yn 1642, daliwyd y castell gan luoedd a oedd yn deyrngar i [[Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban|Siarl I]]. Roedd y castell heb gael ei drwsio yn dilyn gwarchae 1468 ac roedd wedi mynd â’i ben iddo, ac eithrio’r porthdy, a oedd yn cael ei ddefnyddio fel y llys lleol. Yn 1644 penododd [[Rupert, tywysog y Rhein]], y Cyrnol William Owen, yn gwnstabl y castell, a rhoddwyd y dasg o drwsio’r gaer i’r Cyrnol Owen. Bu gwarchae hir rhwng mis Mehefin 1646 a mis Mawrth 1647 pan ildiodd y garsiwn o 44 dyn i’r Cadfridog [[Thomas Mytton]]. Y castell oedd y gaer frenhinol olaf ar y tir i ildio gan nodi diwedd cam cyntaf y rhyfel.
 
Doedd dim angen y castell bellach i sicrhau diogelwch Gogledd Cymru ac, i atal y Brenhinwyr rhag ei ddefnyddio eto, gorchmynnodd y Seneddwyr y dylid ei ddinistrio. Ond dim ond yn rhannol y dilynwyd y gorchmynion hyn. Dinistriwyd grisiau’r porthdy a difrodwyd y castell i’r fath raddau fel na ellid ei ddefnyddio ond ni chafodd ei ddinistrio’n llwyr.
 
 
Cafodd cerrig y castell eu defnyddio i godi tai yn y dref.<ref>{{Cite web|url=http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-15/cym/Datblygu-rhyfela.pdf|title=Datblygiad Rhyfela, tua 1250 hyd heddiw|date=|access-date=28 Ebrill 2020|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Cafodd cerrig y castell eu defnyddio i godi tai yn y dref.<ref>{{Cite web|url=http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-15/cym/Datblygu-rhyfela.pdf|title=Datblygiad Rhyfela, tua 1250 hyd heddiw|date=|access-date=28 Ebrill 2020|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
== Dyluniad ==
[[Delwedd:Harlech.1610 Castle Plan.jpg|bawd|CastellCynllun Harlechpensaerniol ymgan 1610CADW aro fapGastell John SpeedHarlech]]Meistr [[James o St George]] yn rhanbarth Safwy (Savoy) oedd yng ngofal y gwaith cynllunio ac adeiladu. Roedd y castell bron â’i gwblhau erbyn diwedd 1289 am tua £8,190, sef tua 10% o’r £80,000 a wariodd Edward ar adeiladu
[[Delwedd:Harlech03LB.jpg|link=https://cy.wikipedia.org/wiki/Delwedd:Harlech03LB.jpg|alt=|bawd|Cerflun ''Y Ddau Frenin'' gan Ivor Roberts-Jones o flaen y castell.]]
£80,000 a wariodd Edward ar adeiladu
 
cestyll yng Nghymru. Adeiladwyd y castell o garreg leol ac roedd o gynllun consentrig, gan gynnwys porthdy enfawr a oedd unwaith yn llety uchel ei statws i gwnstabl y castell ac ymwelwyr pwysig. Ar y pryd roedd y môr yn cyrraedd yn nes o lawer at Harlech ac roedd llifddor â grisiau hir yn arwain i lawr o’r castell at y lan gan olygu bod modd dod â chyflenwadau i’r castell o’r môr yn ystod gwarchae.
Llinell 38:
Yn wynebu’r môr, roedd murfylchau Harlech yn ymestyn o wyneb y graig serth. Byddai unrhyw ymosodwyr o’r tir yn gyntaf yn gorfod wynebu’r porthdy enfawr gyda dau dŵr. Mae’r môr, fel mynyddoedd Eryri, yn allweddol i leoliad Harlech. Mae waliau mewnol a thyrrau enfawr y gaer yn dal i sefyll i’w huchder llawn. Ar ôl Gwrthryfel Madog ap Llywelyn rhwng 1294–95, adeiladwyd amddiffynfeydd ychwanegol o amgylch y llwybr i lawr at y môr. Gwnaed mwy o waith rhwng 1323– 24, ar ôl rhyfel Despenser pan gafodd [[Edward II, brenin Lloegr|Edward II]] ei fygwth yn y rhanbarth gan ddau o arglwyddi’r gororau, Roger a Humphrey de Bohun. Gorchmynnodd ei siryf, [[Gruffudd Llwyd ap Rhys|Syr Gruffydd Llwyd]], i ymestyn yr amddiffynfeydd a oedd yn arwain at y porthdy a chodi tyrau ychwanegol.
<br />
 
[[Delwedd:Harlech Castle Plan.jpg|bawd|Cynllun pensaerniol gan CADW o Gastell Harlech]]<br />
<br />
 
== Oriel Celf ==
<gallery heights="200" perrow="200">
Delwedd:Speed Harlech insert.jpg|Gan John Speed, 1610
Delwedd:Harlech Castle from the town, 1795.jpg|Gan [[Paul Sandby]], 1795
Delwedd:Harlech Castle (gcf06850).jpg|Gan Edward Dayes, 1803
Delwedd:Harlech Castle (4702512).jpg|Gan [[Hugh Hughes (arlunydd)|Hugh Hughes]], 1846
Delwedd:Harlech Castle (gcf02542).jpg|Gan William Henry Mander, tua 1890
Delwedd:Harlech (gcf10260).jpg|Gan [[John Kelt Edwards]], 1912
</gallery>