Traeth Lafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 300px|bawd|'''Traeth Lafan''' o lan-môr [[Llanfairfechan gydag Afon Menai ac Ynys Môn yn y cefndir]] Mae '''Traeth Lafan''' yn draeth llanwol e...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Mae '''Traeth Lafan''' yn draeth llanwol eang ym [[Bae Conwy|Mae Conwy]] rhwng [[Bangor]] a [[Llanfairfechan]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]], [[gogledd Cymru]].
 
Ardal o fanciau tywod a mwd rhynglanwol ydyw, ar ben dwyreiniol [[Afon Menai]]. Ei arwynebedd pan fo'r llanw allan yw 2642 hectar. Pan fo'r llanw allan mae nifer o ffyrdiauffrydiau bychain dŵr croyw yn rhedeg drosto i'r môr. Mae'n cynnwys banc tywod anferth ar ei ymyl gogleddogledd-ddwyreiniol a elwir Banc y Dytshmon (''Dutchman's Bank''). Yn ôl traddodiad roedd y traeth yn dir sych ar un adeg ac yn rhan o dir [[Helig ap Lannog]] a foddiwyd un noson ystormus.
 
Am ganrifoedd roedd pobl yn gorfod croesi Traeth Lafan ar lanw isel i ddal cwch fferi a ddeuai drosodd i'w cyfarfod er mwyn groesicroesi i Ynys Môn. Dyma'r ffordd y cludwyd corff [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)]] i'w orffwysfa ym mynachlog [[Llan-faes]] yn [[1237]].
 
Mae glannau Traeth Lafan ynghyd â'r traeth ei hun yn Ardal Warchodedig Arebennig (AWA / SPA) am ei fod yn gartref i gynifer o adar. Mae'n safle arbennig o bwysig yn y gaeaf, pryd ceir nifer o adar dŵr yno, yn arbennig [[Pioden y Môr|piod y môr]] (''Haematopus ostralegus''). Pan fo'r tywydd yn ddrwg yn y gaeaf daw nifer o biod y môr draw o [[Glannau Dyfrdwy|Lannau Dyfrdwy]] i gysgodi.
 
[[Categori:Traethau Cymru]]
[[Categori:Afon Menai]]
[[Categori:Gwynedd]]