Brwydr Bryn Glas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) Manion gyda llaw (drwy AWB) using AWB |
|||
Llinell 6:
==Y frwydr==
Roedd rhwng 2,000 a 4,000 o ddynion ym myddin Lloegr (fel yng nghofnodion y rhan fwyaf o frwydrau’r Oesoedd Canol, mae’r niferoedd yn amrywio). Eu harweinydd oedd Syr [[Edmund Mortimer]] ac roedd ganddo fintai o saethwyr Cymreig hefyd. Roedd cyfanswm o rhwng 800 ac 1,100 yn lluoedd y Cymry o dan awdurdod [[Rhys Gethin]], sef un o swyddogion mwyaf talentog a phrofiadol Owain Glyndwr (a laddwyd yn ddiweddarach yn yr ymosodiad ar gastell Grysmwnt yn 1405). Doedd dim llawer o offer gan y Cymry o’u cymharu â’r Saeson ond roedd ganddyn nhw’r fantais o’r tir uwch. Er bod llai ohonyn nhw, roedd lluoedd Glyndŵr wedi’u rhannu. Roedd rhan o’i fyddin, gan gynnwys llawer o saethwyr â’u bwâu hir pwerus, wedi cymryd eu lle ar lethrau’r bryn. Roedd y gweddill yn cuddio mewn dyffryn ar ymyl y bryn, o’r golwg yn y dail trwchus. Cafodd dynion Mortimer eu cymell i symud ymlaen yn eu trefniant i fyny’r llethr ac roedden nhw o fewn cyrraedd i’r saethwyr Cymreig. Wrth i ŵyr traed Mortimer geisio agosáu at saethwyr Glyndŵr, daeth y Cymry i’r golwg o’r dyffryn ac ymosododd y rhai a oedd ar y bryn. Gan eu bod yn saethu i lawr ar filwyr Mortimer roedd yr ergydion cymaint mwy grymus. Syrthiodd nifer o'r Saeson cyn dod yn agos i rengoedd y Cymry a medru ymladd llaw wrth law. Ar adeg hollbwysig yn y frwydr, enciliodd llawer o’r saethwyr Cymreig ym myddin Mortimer a throi eu bwâu ar eu cyn-gymheiriaid. Roedd lluoedd Mortimer wedi drysu ac fe wnaethon nhw ffoi. Roedd Cymry lleol o swydd Henffordd yn rhengoedd Mortimer, yn erbyn eu hewyllys, a phan welsant sut oedd y trai yn troi aethant drosodd i Glyn Dŵr (mae rhai haneswyr yn meddwl fod hynny wedi'i gytuno o flaen llaw) ac ymosod ar y milwyr Seisnig. Amcangyfrifir bod 1,000 o’r Saeson wedi’u lladd. Trechwyd byddin Mortimer yn llwyr a chollodd nifer o filwyr cyffredin ac efallai cannoedd o farchogion ar eu meirch trymion. Daliwyd Mortimer ei hun ac yn nes ymlaen priododd [[Catrin ferch Owain Glyn Dŵr|Catrin]], merch Owain, a sefyll gyda'r arweinydd Cymreig yn erbyn brenin Lloegr.
Mae adroddiadau am y frwydr yn honni bod menywod a oedd yn dilyn y gwersyll wedi anffurfio organau rhyw cyrff meirw’r Saeson. Roedd hynny i ddial am weithredoedd byddinoedd [[Harri IV, brenin Lloegr|Harri IV]] y flwyddyn flaenorol a oedd yn cynnwys achosion o dreisio a chreulondeb. Mae’n ddigon posibl i’r stori gael ei chreu gan senedd Loegr er mwyn portreadu’r Cymry fel barbariaid. Y frwydr hon yw un o fuddugoliaethau mwyaf y Cymry yn erbyn byddin Lloegr hyd heddiw
==Llyfryddiaeth==
|