Menter Iaith Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
}}
 
Sefydlwyd '''Menter Iaith Môn''' yn rhan o’r asiantaeth fenter yn [[1997]] yn dilyn cais llwyddiannus i [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg|Fwrdd yr Iaith Gymraeg]]. Mae Menter Iaith Môn yn rhan o rwydwaith Mentrau Iaith Cymru.
 
== Bwriad y Fenter ==
Bwriad y fenter yw darparu trawstoriad o ddarpariaethau a gweithgareddau sy’n cefnogi ymdrechion i gynnal y Gymraeg yn lleol, ac yn darparu cyfleoedd i breswylwyr yr Ynys ddefnyddio’u [[Cymraeg]].
 
Ymgeisia godi hyder trigolion i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Drwy eu gwaith cymunedol bwriadir gweld bwrlwm cymdeithasol gyda’r cymunedau hynny yn arddel y Gymraeg fel rhan o’i gwead ac isadleiledd. Rhan annatod o’r gwaith hwn hefyd yw sicrhau ffynonellau ariannol er mwyn rhoi ar waith fesurau lliniaru ar impact ieithyddol datblygiadau mawr ar yr Ynys.
 
== Prosiectau'r Fenter ==
Dyma restr o brosiectau'r fenter yn 2017:
 
*Mae [[Bocsŵn]] yn weithdy ar gyfer creu cerddoriaeth ac yn cynnwys Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc. Mae’r Rhwydwaith yn rhoi cyfle i bobl ifanc drefnu a chynnal eu gigs eu hunain yn lleol a pherfformio mewn gwyliau amrywiol. Dyma brosiect sydd yn hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg newydd yn lleol gan roi profiadau trefnu arbenigol i’r bobl ifanc. Mae'n cynnig cyfleoedd cymunedol i ddysgu chwarae a chreu cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
*Gweithdai drama a pherfformio yw Theatr Ieuenctid Môn sydd yn cael ei gynnal mewn pump lleoliad ar yr Ynys i blant a phobl ifanc 7-18 oed.
*Gyda [[Prosiect Caergybi]], mae swyddog yn gweithio yn y dref er mwyn codi statws a phroffil y Gymraeg, ac er mwyn pontio’r Gymraeg rhwng y gymuned a phobl ifanc. Rhoddir pwyslais ar gydweithio â phrif bartneriaid a rhanddeiliad yn y dref er mwyn codi statws y Gymraeg.
*Mae'r Prosiect 'Teuluoedd' yn cynnwys nifer o gynlluniau cyffrous, amrywiol er mwyn cefnogi ymdrechion teuluoedd i siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Drwy gynlluniau fel [[Selog]] a [[Magi Ann]] mae teuluoedd yn cael cyfle i weld, clywed a darllen y Gymraeg adref.
*Mae [[Gŵyl Cefni]] yn brosiect arall sydd yn rhan o'r fenter. Gŵyl Gymraeg yw hi a gynhelir yng nghanol tref [[Llangefni]] ym mis [[Mehefin]]. Bellach yn 15 oed ac wedi rhoi llwyfan i brif artistiaid [[Cymru]]. Cynhelir dros pedwar diwrnod ac yn cynnig arlwy amrywiol ar gyfer y teulu i gyd.
*Mae ''Cefnogi Busnesau a Gweithleoedd'' yn brosiect sydd yn cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan godi hyder aelodau staff yn y gweithle i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus wrth gyfathrebu â’i gilydd ac â chwsmeriaid. Mae hyn yn codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid am wasanaethau Cymraeg.