Menter Iaith Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
pennawdau
doleni
Llinell 14:
Dyma restr o brosiectau'r fenter yn 2017:
 
*Mae [[Bocsŵn]] yn weithdy ar gyfer creu cerddoriaeth ac yn cynnwys Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc. Mae’r Rhwydwaith yn rhoi cyfle i bobl ifanc drefnu a chynnal eu gigs eu hunain yn lleol a pherfformio mewn gwyliau amrywiol. Dyma brosiect sydd yn hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg newydd yn lleol gan roi profiadau trefnu arbenigol i’r bobl ifanc. Mae'n cynnig cyfleoedd cymunedol i ddysgu chwarae a chreu cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
*Gweithdai drama a pherfformio yw Theatr Ieuenctid Môn sydd yn cael ei gynnal mewn pump lleoliad ar yr Ynys i blant a phobl ifanc 7-18 oed.
*Gyda [[Prosiect Caergybi]], mae swyddog yn gweithio yn y dref er mwyn codi statws a phroffil y Gymraeg, ac er mwyn pontio’r Gymraeg rhwng y gymuned a phobl ifanc. Rhoddir pwyslais ar gydweithio â phrif bartneriaid a rhanddeiliad yn y dref er mwyn codi statws y Gymraeg.
*Mae'r Prosiect 'Teuluoedd' yn cynnwys nifer o gynlluniau cyffrous, amrywiol er mwyn cefnogi ymdrechion teuluoedd i siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Drwy gynlluniau fel [[Selog]] a [[Magi Ann]] mae teuluoedd yn cael cyfle i weld, clywed a darllen y Gymraeg adref.
*Mae [[Gŵyl Cefni]] yn brosiect arall sydd yn rhan o'r fenter. Gŵyl Gymraeg yw hi a gynhelir yng nghanol tref [[Llangefni]] ym mis [[Mehefin]]. Bellach yn 15 oed ac wedi rhoi llwyfan i brif artistiaid [[Cymru]]. Cynhelir dros pedwar diwrnod ac yn cynnig arlwy amrywiol ar gyfer y teulu i gyd.
*Mae ''Cefnogi Busnesau a Gweithleoedd'' yn brosiect sydd yn cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan godi hyder aelodau staff yn y gweithle i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus wrth gyfathrebu â’i gilydd ac â chwsmeriaid. Mae hyn yn codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid am wasanaethau Cymraeg.